Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 22 oed wedi cael ei gyhuddo yn dilyn llawdriniaeth yn targedu'r cyflenwad cyffuriau yn y Rhyl ar ddydd Mercher, 22 Ionawr.
Daeth y gwarantau fel rhan o ymchwiliad ar y cyd gyda Heddlu Glannau Mersi i fynd i'r afael â chyflenwi cyffuriau i Ogledd Cymru.
Ers hynny mae Callum Wright o Victoria Road yn y Rhyl wedi cael ei gyhuddo o fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A, bod â chyffuriau yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi cyffuriau dosbarth B a bod ag eiddo troseddol yn ei feddiant. Ymddangosodd yn Llys Llandudno ddydd Iau 23 Ionawrrd ac fe'i gadwyd ar remand i ymddangos yn ddiweddarach.
Cafodd ail ddyn ei arestio ar amheuaeth o fod yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau. Mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad ers hynny.
Cafodd nifer o gyffuriau eu hatafaelu.
Dywedodd y Rhingyll Peter Griffiths: "Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu'r cyhoedd a mynd i'r afael â'r bygythiad y mae unigolion a grwpiau sy'n ymwneud â chyffuriau yn ei achosi.
"Mae delio cyffuriau yn effeithio ar bawb yn y gymuned gan ei fod yn gyrru trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar bob lefel.
"Rydym yn parhau i weithio gyda chydweithwyr mewn heddluoedd eraill er mwyn mynd i'r afael â'r rhai sy'n dymuno achosi niwed a gwneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel yn y DU."