Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Ynys Môn wedi ei gyhuddo mewn cysylltiad â dwy fyrgleriaeth yn Llanberis.
Mi ymddangosodd Mark Goodier, 36 oed, o Landdaniel, Gaerwen, yn y Llys Ynadon, Caernarfon, heddiw, dydd Gwener 17 Ionawr. Mi gafodd ei gyhuddo o ddau drosedd o fyrgleriaeth yn dilyn digwyddiadau ar 19 a 20 Rhagfyr llynedd.
Mi gafodd hefyd ei gyhuddo o drafod eiddo wedi’u dwyn, dwyn cerbyd modur, a bod efo arfau bygythiol.
Mi ddigwyddodd y fyrgleriaeth gyntaf o gwmpas 7.30pm ar 19 Rhagfyr, lle cafodd nifer o eitemau gwerthfawr eu dwyn o gyfeiriad ar Stryd yr Orsaf.
Yn ystod oriau mân y bore wedyn, o gwmpas 1.10am, mi gafodd byrgleriaeth ei riportio yn y Lleng Brydeinig Frenhinol ar Stryd y Farchnad, lle cafodd ffenest ei chwalu er mwyn mynd i fewn. Ni gafodd unrhyw beth ei ddwyn.
Mi gafodd dyn 38 oed o ardal Gaerwen hefyd ei arestio mewn cysylltiad â’r ddau ddigwyddiad.
Mae o eisoes wedi’i ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau barhau.
Mi gafodd Goodier ei remandio i’r ddalfa ac mi wnaiff ymddangos yn Llys y Goron, Caernarfon ar 17 Chwefror.