Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae grŵp troseddau trefnedig oedd yn cyflenwi cyffuriau i Wrecsam o Lannau Mersi wedi'u carcharu am gyfanswm o 35 o flynyddoedd.
Mi wnaeth swyddogion o Heddlu Gogledd Cymru a Heddlu Glannau Mersi ddifetha cynllwyniau'r gang ym mis Hydref, yn dilyn ymchwiliad cudd wyth mis i gynllwynio cyflenwi cocên, heroin a chetamin i'r ddinas.
Mi ymchwiliwyd i symudiadau a chyfathrebiadau'r rhai yn gysylltiedig drwy gael data a negeseuon ffôn.
Mi wnaeth swyddogion ganfod bod ffynhonnell y cyffuriau gan gyflenwr ar Lannau Mersi – oedd yn arwain y gang – ac yn cael eu cludo i Wrecsam gan negeswyr.
Mi gafodd nifer o warantau eu cyflawni ar draws Parc Caia, Wrecsam a Glannau Mersi er mwyn arestio'r grŵp ym mis Hydref.
Yn gyfan gwbl, mi atafaelwyd gwerth £77,000 o gyffuriau Dosbarth A a B fel rhan o'r ymgyrch, yn ogystal â swm sylweddol o arian parod gwerth £20,000.
Mae amcangyfrif bod gwerth tua £770,000 o gyffuriau wedi cael eu cludo drwy gydol cyfnod y cynllwyn.
Mi gyfaddefodd pob un o'r saith aelod o'r gang eu rolau yn y cynllwyn ac mi gawson nhw eu carcharu heddiw yn Llys y Goron, Yr Wyddgrug.
Am gynllwynio cyflenwi cocên, heroin a chetamin, mi roddodd y barnwr y dedfrydau canlynol:
Anthony Howey, 40, o Rupert Drive, Lerpwl – saith o flynyddoedd. Mi dderbyniodd ddedfryd o chwech o fisoedd hefyd am yrru'n beryglus, fydd yn rhedeg yn olynol.
Rhys Jones, 25, sydd yng Ngharchar Berwyn ar hyn o bryd - 5 mlynedd. Cafodd hefyd ddedfryd o 6 mis o garchar am achos o aflonyddu nad yw'n gysylltiedig, a fydd yn rhedeg yn olynol.
Edmund Partyka, 26, sydd yng Ngharchar Berwyn ar hyn o bryd - 4 blynedd a 4 mis.
Dwayne Pritchard, 26, o Fran, Plas Madog, Wrecsam – 4 blynedd a 9 mis.
Kane Reeves, 21, o Ffordd Montgomery, Wrecsam – 3 blynedd a 6 mis.
Garry Sullivan, 49, o Milestone Road, Westvale, Glannau Mersi – 4 blynedd
Jason Young, 24, o Fryn Hafod, Wrecsam – 5 blynedd a 7 mis.
Ar 20 Mai, cafodd Rhys Jones o Wrecsam, a oedd â rôl flaenllaw yn y gang fel prif gyswllt i'r cyflenwr, ei arestio a'i gadw yn y ddalfa am fater nad oedd yn gysylltiedig â hyn.
Er gwaethaf hyn, mi barhaodd â'i gysylltiad â'r gang o'r carchar.
Ond bedwar mis yn ddiweddarach, aeth tîm chwilio penodol yng Ngharchar Berwyn i mewn i gell Jones lle ceisiodd guddio ffôn, ac mi ganfuwyd bod rhifau ffôn y gang o fewn y teclyn.
Ar 12 Gorffennaf, mi gafodd Gary Sullivan o Lannau Mersi ei stopio gan swyddog yn Wrecsam, lle mi gyfaddefodd bod ganddo gyffuriau yn y car, ond mi honnodd nad oedd yn gwybod faint.
Mi atafaelodd y swyddog gocên, heroin a chetamin o burdeb uchel, ynghyd â ffôn Sullivan, a chanfod dros £400 o arian parod yn y car.
Mi gafodd ei arestio ac yna'i ryddhau o dan ymchwiliad.
Anthony Howey oedd y nesaf i gael ei arestio ar 1 Hydref, pan gafodd ei weld yn gyrru yn ardal Glannau Mersi.
Mewn ymgais i stopio'i gar, mi ffodd Howey o'r lleoliad yn ei gerbyd, gan yrru i fyny ymyl gwair cyn gwrthdaro â choeden a thri cherbyd Heddlu Glannau Mersi.
Ar ôl cael ei arestio, mi ‘roedd ganddo tua £17,000 mewn arian parod a sylwedd creigiog gwyn o faint pêl tenis.
Y diwrnod canlynol, mi gafodd gweddill y grŵp eu harestio.
Yn siarad yn dilyn y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Dean Jones: "Mae dedfrydau heddiw'n anfon neges glir na wnawn ni oddef gwerthu cyffuriau yn ein cymunedau ni.
“Mi all sylweddau Dosbarth A fel cocên a heroin ddifetha bywydau a dod â gofid i ddefnyddwyr a'u teuluoedd.
"Mi fydd mynd i'r afael â'r troseddau hyn yn parhau bod yn flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru a 'da ni’n parhau bod yn ymrwymedig i weithio efo cydweithwyr dros y ffin, ac efo asiantaethau partner, er mwyn aros un cam o flaen y troseddwyr hyn.
"Nid yn unig mae canlyniad heddiw yn dyst i waith caled ac ymroddiad y swyddogion o dan sylw, ond hefyd i'r help 'da ni'n cael gan y cyhoedd, sy'n helpu'n fawr wrth fynd i'r afael â'r troseddau hyn, a 'dwi'n gobeithio'u bod yn cael tawelwch meddwl drwy'r euogfarnau hyn.
"Mi ddylai'r ymgyrch lwyddiannus hon fod yn rhybudd o'r canlyniadau i unrhyw un sy'n ymwneud â throseddau o'r fath. Mi fyddwn yn parhau gwneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf saff yn y DU i fyw, gweithio ac ymweld."
Dywedodd y Ditectif Ringyll Shaun McNee o dîm Ymchwilio Llinellau Cyffuriau Heddlu Glannau Mersi: "Mae'r ddedfryd hon yn dangos llwyddiant heddluoedd cyfagos yn cydweithio er mwyn cymryd troseddwyr llinellau cyffuriau oddi ar ein strydoedd.
"Mi 'roedd hwn yn ymchwiliad cymhleth, ac mae'r gwarantau a gyflawnwyd yn dangos sut ‘da ni’n ymchwilio'n rhagweithiol i droseddau trefnedig difrifol a llinellau cyffuriau yn ein cymunedau.
"'Da ni'n gwybod y difrod mae cyffuriau'n ei achosi ac mae Heddlu Glannau Mersi yn parhau bod yn ddi-baid wrth fynd ar drywydd y troseddwyr hyn a dod â'u masnach cyffuriau i ben. Prosiect Medusa yw ein hymateb dyddiol i linellau cyffuriau, a 'da ni'n parhau gweithio ar y cyd efo ystod eang o bartneriaid ac asiantaethau er mwyn tarfu ar droseddau trefnedig difrifol, a rhoi troseddwyr yn y carchar.
"'Dwi'n annog y cyhoedd i gyflwyno unrhyw wybodaeth os ydyn nhw'n amau cyflenwi cyffuriau yn eu hardal nhw, ac mi fyddwn ni’n parhau gweithredu'n gadarnhaol."