Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn anffodus, mae beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd ar gyrion Bangor yn gynharach fore ddoe (dydd Iau, 30 Ionawr).
Cafodd yr heddlu eu galw am 06:55 oherwydd gwrthdrawiad ar ben yr A487 Allt Faenol ger y gyffordd hefo Ffordd Penrhos, rhwng beic modur Honda a char Volkswagen Tiguan llwyd.
Aeth y gwasanaethau brys i’r fan a’r lle ac fe gludwyd y beiciwr modur i Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle cadarnhawyd ei fod wedi marw.
Mae ei berthnasau agosaf a’r crwner wedi cael gwybod.
Cafodd gyrrwr y Tiguan eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac mae hi ar hyn o bryd wedi’i rhyddhau o dan ymchwiliad.
Mae’r Rhingyll Liam Morris o Uned Gwrthdrawiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru yn erfyn ar unrhyw un a oedd yn yr ardal bore ‘ma i gysylltu hefo swyddogion.
Dywedodd: “Mae ein meddyliau hefo teulu’r beiciwr modur ar yr adeg eithriadol o anodd yma.
“‘Da ni’n awyddus clywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad yn digwydd ag sydd eto angen siarad hefo ni, neu unrhyw un a oedd yn teithio ar hyd yr A487 cyn neu ar adeg y gwrthdrawiad, sydd hefo camera cerbyd.
“Hoffem hefyd ddiolch i’r rhai wnaeth stopio er mwyn helpu ac i fodurwyr am eu hamynedd nhw tra bod y ffordd wedi cau er mwyn caniatáu i’n Hymchwilwyr Gwrthdrawiadau Fforensig ni gynnal ymchwiliad o’r safle.”
Dylai unrhyw un sydd hefo gwybodaeth a fydd o help i’r ymchwiliad gysylltu hefo swyddogion yr Uned Ymchwiliadau Gwrthdrawiadau Difrifol drwy’r wefan neu drwy ffonio 101, gan nodi’r rhif cyfeirnod 25000079908.
Cafodd y ffordd ei ail-agor toc cyn 2:30pm.