Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Fe wnaeth y Ditectif Gwnstabl Gavin Jones ymuno hefo'r heddlu am y tro cyntaf fel Ymchwilydd Mannau a Lleoliadau Troseddau yn 2005.
Ar ôl 12 mlynedd yn y rôl, roedd eisiau her newydd, ac yn 2017 daeth yn swyddog heddlu.
Dywedodd: "Ar ôl gwasanaethu fel Ymchwilydd, roedd yn ddilyniant naturiol ceisio gyrfa fel ditectif.
"Rwy'n mwynhau rhoi cliwiau at ei gilydd a dadansoddi tystiolaeth er mwyn dod o hyd i atebion. "Mae gen i awydd grymus i ddatrys troseddau a dod â troseddwyr o flaen eu gwell a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl."
Yn 2020, daeth Gavin yn dditectif a throdd ei sylw at fynd i'r afael hefo camfanteisio ar blant. Enillodd wobr yn ddiweddar oherwydd ei ymroddiad i'r rôl.
Derbyniodd Ymchwilydd y Flwyddyn Heddlu Gogledd Cymru yn dilyn ymchwiliad i grŵp o bump o bobl ifanc bregus a oedd ar goll yn rheolaidd ac yn cyflawni troseddau lefel isel tua diwedd 2021.
Dywedodd Gavin: "Fe wnaethon ni ddarganfod eu bod nhw'n cael eu targedu gan Stephen Anthony Thomas, oedd yn cyflenwi cyffuriau ac alcohol iddyn nhw cyn camfanteisio arnyn nhw.
"Fe wnes i gydweithio'n agos hefo asiantaethau partner er mwyn helpu a diogelu'r plant ar yr un pryd ag ymchwilio i droseddau Thomas."
Nid oedd dioddefwyr yr achos am ymgysylltu hefo'r heddlu i ddechrau, ond gweithiodd DC Jones i greu ymddiriedaeth hefo'r grŵp ifanc a'u sicrhau y byddai'r heddlu yn eu helpu nhw.
Aeth Gavin yn ei flaen: "Roedden nhw wedi cael eu trin yn fel rhai o dan amheuaeth o'r blaen am fân droseddau oedd wedi chwalu unrhyw ymddiriedaeth.
"Fe wnes i weithio'n ddiflino er mwyn cael yr ymddiriedaeth yna'n ôl. Unwaith roeddwn i'n gallu siarad hefo nhw am yr hyn oedd wedi digwydd, ymhen amser, roedden nhw'n cydnabod eu bod nhw'n ddioddefwyr.
"Arweiniodd eu dewrder nhw wrth helpu'r ymchwiliad at garcharu Thomas am ei droseddau."
Cafodd Stephen Anthony Thomas ei garcharu am chwe blynedd a hanner ym mis Hydref 2024.
Wrth feddwl am ei yrfa hyd yn hyn, dywedodd Gavin: "Mae'r gwaith yn heriol ond yn werth chweil.
"Mae cymaint o ddatblygiad personol a phroffesiynol ar gael. Gallwch chi weithio ar rywbeth gwahanol y rhan fwyaf o ddiwrnodau ac mae cymaint o swyddi gwahanol yn yr heddlu.
"Mae'r cyfleoedd gyrfa yn wych ac os byddwch chi'n dod yn dditectif, bydd mwy o ddrysau yn agor i chi."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn chwilio am bobl sy'n adlewyrchu'r cymunedau da ni'n eu gwasanaethu, gallai ddod â phrofiadau amrywiol ac sy'n barod i warchod y rhai sydd ei angen fwyaf. Os oes gynno chi'r hyn sydd ei angen er mwyn gwneud gwahaniaeth, cofrestrwch eich diddordeb er mwyn dod yn swyddog heddlu ar ein gwefan ni rŵan.