Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 40 oed o Fangor wnaeth ymosod yn rhywiol ar ddynes yn y stryd wedi’i garcharu.
Mi ymddangosodd Gethin Jones, o Ffordd Garth, Bangor yn Llys y Goron, Caernarfon ar ddydd Gwener 10 Ionawr, ar ôl cyfaddef ymosod yn rhywiol.
Ar 18 Rhagfyr, mi aeth Jones at ddynes nad oedd o’n ei hadnabod, a rhoi ei freichiau o gwmpas ei hysgwyddau, gan geisio ei harwain i lawr lôn gul gerllaw.
Mi ddechreuodd wneud sylwadau rhywiol tuag ati, gan wneud iddi fod ag ofn am ei diogelwch hi.
Mi geisiodd y ddynes gerdded i ffwrdd, ond mi wnaeth o ei dilyn hi, yn gwneud sylwadau am ei thatŵau a cheisio cyffwrdd ei chefn, gan barhau gwneud sylwadau rhywiol tuag ati hi.
Mi welodd y ddynes grŵp o bobl gerllaw a rhedodd hi tuag atyn nhw, ac mi redodd Jones i ffwrdd o ganlyniad.
Mi gafodd ei garcharu am 18 mis ac mi dderbyniodd Orchymyn Atal Niwed Rhywiol (SHPO) yn para 10 mlynedd.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Dros Dro Andrew Davies: “Ein blaenoriaeth ni ydy trechu trais yn erbyn merched a genethod a dod â’r troseddwyr o flaen eu gwell.
“’Dwi’n cymeradwyo’r dioddefwr, oedd yn ddewr iawn ar ôl profiad mor frawychus, a ddigwyddodd ynghanol y dydd.
“’Does dim amheuaeth y bydd y digwyddiad hwn yn cael effaith barhaus ar ei theimlad o fod yn saff.
“’Dwi’n cefnogi’r defnydd o’r SHPO, sy’n gwahardd Jones rhag mynd at ac aflonyddu merched yn y dyfodol.”
Ymgyrch Unite ydy ein hymateb ni er mwyn trechu trais yn erbyn merched a genethod. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma – Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru