Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
‘Da ni’n apelio am wybodaeth ynglŷn â char a gafodd ei ddefnyddio mewn byrgleriaeth yn Wrecsam.
Am 2.15am ar ddydd Mawrth, 14 Ionawr, mi gawson ni wybod bod ffenest siop yn Stryt Yorke wedi cael ei chwalu cyn i ddau ddyn ddwyn llawer iawn o ddillad.
Mi wnaeth y ddau ffoi o’r lleoliad mewn Vauxhall Astra glas oedd wedi’i ddwyn, gan ddefnyddio platiau cofrestru oedd hefyd wedi’u dwyn.
Mi gafodd y cerbyd ei stopio’n gyflym gan swyddogion, ond mi wnaeth y ddau o dan amheuaeth ddianc ac maen nhw’n parhau i fod yn eisiau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Gary Williams: “’Roedd y Vauxhall Astra Tech Line Ecoflex 110 glas yn gysylltiedig â’r digwyddiad hwn wedi ei ddwyn o eiddo yn Llwyn Celli yn Wrecsam ar 12 Ionawr, dau ddiwrnod cyn y digwyddiad.
“Mi barciodd y car, gan ddefnyddio’r platiau cofrestru wedi’u dwyn, sef MK10OLB, ar Stryt Yorke y tu allan i’r siop toc cyn 2.15am cyn ffoi.
“Mi gafodd ei ddarganfod yn fuan wedyn ym Mharc Caia, lle ‘roedd o wedi cael ei adael.
“’Dwi’n apelio ar unrhyw un welodd y car yn cael ei yrru cyn y digwyddiad ar ddydd Mawrth, 14 Ionawr, neu wedi ei weld wedi’i barcio cyn y digwyddiad, i gysylltu efo ni.”
Mae ymholiadau’n parhau a dylai unrhyw un efo gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad gysylltu efo ni ar 101, neu drwy’r wefan, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 2500034237.