Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
‘Da chi’n adnabod y car hwn?
‘Da ni’n gobeithio olrhain y cerbyd mewn cysylltiad â byrgleriaeth waethygedig yn Llandudno.
Yn ystod oriau mân dydd Sul, 3 Tachwedd, mi gafodd tŷ ar Abbey Road, Llandudno ei dargedu gan ladron rhwng 00.41am a 03.33am, lle cafodd llawer o emwaith eu dwyn.
Mae’r eitemau, sy’n cynnwys modrwyau diemwnt, dau fwclis, oriawr, breichled a gemwaith gwisg, yn y llun isod.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Sean Harrison: “Mi ‘roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus i’r dioddefwr, a ‘da ni’n parhau dilyn pob ymholiad er mwyn sicrhau ein bod yn dal y rhai sy’n gyfrifol.
“’Da ni’n gwybod bod o leiaf ddau unigolyn wedi torri i mewn i’r tŷ drwy dorri ffenest am 12.41am, lle wnaethon nhw ddwyn llawer iawn o emwaith.
“Mi welwyd nhw’n gadael y tŷ am 3.33am i gyfeiriad Abbey Place.
“Am 3.35am, mae ffilm CCC yn dangos y cerbyd sy’n y llun, sydd i’w weld yn Land Rover, yn teithio heibio cartref y dioddefwr.
“’Dwi’n gofyn i unrhyw un sy’n adnabod y car, neu unrhyw un sy’n meddwl eu bod wedi ei weld yn teithio yn yr ardal cyn neu ar ôl y fyrgleriaeth, ac sydd efo ffilm CCC neu gamera cerbyd, i gysylltu efo ni.
“’Dwi hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd wedi bod yn dyst i’r digwyddiad, neu wedi sylwi ar unrhyw beth amheus ar y pryd, i gysylltu efo ni.
“Gallai unrhyw un efo gwybodaeth gysylltu efo ni ar 101, neu drwy ein gwefan yma Sgwrs fyw | Heddlu Gogledd Cymru, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 24000933231.
“Gallwch hefyd gysylltu efo’r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555 111, neu drwy eu gwefan: Elusen Annibynnol y DU yn cymryd gwybodaeth trosedd yn ddienw | Crimestoppers