Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd amnest cenedlaethol yn dechrau ymhen wythnos i berchnogion drylliau creu sŵn (TVBFs) eu trosglwyddo i'r heddlu gan y byddan nhw'n cael eu gwahardd yn fuan.
Bydd heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn cynnal Amnest Drylliau Tanio am bedair wythnos ar gyfer drylliau creu sŵn (TVBFs) sy'n cael eu creu yn Nhwrci sydd bellach yn anghyfreithlon i'w meddiannu. Mae hyn yn dilyn profion gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a heddluoedd.
Bydd yr amnest yn digwydd rhwng 3 a 28 Chwefror 2025, ac ar ôl hynny gallai unrhyw un sydd hefo dryll creu sŵn (TVBF) cael eu herlyn am hyd at 10 mlynedd o garchar.
Mae profion gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a heddluoedd, a ariennir gan y Swyddfa Gartref, yn dangos bod modelau a gynhyrchir gan bedwar o weithgynhyrchwyr Twrcaidd yn hawdd eu newid yn hawdd ac felly'n anghyfreithlon. Mae'r drylliau yn gyfreithlon i'w prynu yn y DU heb drwydded gan bobl dros 18 oed oni bai eu bod yn hawdd eu newid.
Yn wreiddiol, mae gan y drylliau faril wedi'i rwystro'n llawn a maen nhw wedi'u dylunio er mwyn saethu cetris gwag yn unig. Pan mae'n cael ei saethu, mae nwyon hylosgi yn dod o dop yr arf. Mae drylliau yn cael eu gwerthu hefo o leiaf 50% o'u harwyneb gweladwy wedi'u paentio'n lliw llachar. Fodd bynnag, gall troseddwyr eu paentio'n ddu, felly maent yn edrych fel arf angheuol gwreiddiol (OLP) yn ogystal â'u newid i ddryll tanio angheuol.
Ers 2021, mae gorfodi'r gyfraith yn y DU wedi casglu dros 800 o'r drylliau mewn amgylchiadau troseddol. Mae drylliau creu sŵn wedi'u newid wedi cael eu defnyddio mewn o leiaf bedwar dynladdiad yn y DU yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r drylliau tanio penodol o Dwrci, a fydd yn anghyfreithlon yn fuan, yn fodelau hefo enwau brandiau Retay, Ekol, Ceonic a Blow. Er, mae unrhyw un sydd hefo'r dryll sy'n ansicr a ydy'r newid yn y gyfraith yn berthnasol iddyn nhw wedi cael y cyngor syml. Os oes amheuaeth, rhowch o fewn.
Nid ydy deddfwriaeth drylliau tanio wedi newid. Mae'n anghyfreithlon bod yn berchen ar yr arfau o dan Ddeddf Arfau Tanio 1968 gan y gellir eu newid yn rhwydd gan ddefnyddio offer cartref cyffredin a heb sgil arbenigol o ran yr unigolyn sy'n eu newid. Mae profion diweddar a gwblhawyd gan yr Asiantaeth wedi dangos hyn. Mae'r heddlu'n gofyn i bobl drosglwyddo unrhyw ddrylliau cyn 28 Chwefror 2025 i'w helpu nhw osgoi cael eu herlyn ac atal y pistolau hyn rhag mynd i'r dwylo anghywir.
Gall llawer o ddrylliau gael eu meddiannu'n ddiniwed ac oherwydd nad ydy pobl yn ymwybodol eu bod yn anghyfreithlon. Efallai eu bod nhw wedi'u hanghofio yng nghartrefi pobl. Mae'r amnest yn rhoi cyfle i bobl gael gwared ar y drylliau yn saff trwy fynd â nhw i orsaf heddlu leol a'i roi i mewn.
Bydd yr amnest ar gyfer drylliau yn cael ei gynnal am bedair wythnos. Gellir ildio drylliau tanio a bwledi diangen, didrwydded ac anghyfreithlon i'r heddlu unrhyw dro. Bydd yn osgoi'r risg ohonynt yn dod ynghlwm â throseddoldeb. Mae'n golygu y gall aelodau o'r gymuned gael gwared ar ddrylliau tanio mewn lle saff.
Yn ystod cyfnod yr amnest, ni fydd y rhai sy'n rhoi drylliau wedi'u cynhyrchu yn Nhwrci yn wynebu erlyniad am eu meddu'n anghyfreithlon. Ni fydd yn rhaid iddyn nhw roi eu manylion. Fodd bynnag, bydd hanes unrhyw ddrylliau tanio byw a roddir i mewn yn cael ei wirio am dystiolaeth os cânt eu defnyddio mewn trosedd.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gareth Evans o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae troseddau gynnau yng Ngogledd Cymru yn parhau bod yn hynod brin. Ond 'da ni ddim yn hunanfodlon yn ei gylch. Dyna pam 'da ni'n cefnogi Amnest Drylliau Creu Sŵn Twrcaidd ar ôl i brofion ddangos y gellir eu newid nhw'n ddrylliau tanio, gan eu gwneud nhw'n anghyfreithlon i'w meddiannu nhw.
"Bydd ildio drylliau creu sŵn sy'n cael eu gweithgynhyrchu gan BLOW, CEONIC, EKOL a RETAY rŵan yn helpu i'w hatal nhw rhag mynd i'r dwylo anghywir yn y dyfodol a chael eu defnyddio gan droseddwyr. 'Da ni eisiau cymaint o ddrylliau creu sŵn gael eu trosglwyddo. Dwi'n annog unrhyw un sydd hefo un yn eu meddiant i fynd i'w gorsaf heddlu leol i'w rhoi i mewn.
"Hefo'n partneriaid ni, 'da ni'n gweithio'n galed o hyd er mwyn addysgu pobl am ddrylliau tanio a'r peryglon sy'n gysylltiedig hefo nhw. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr nad ydy troseddau gynnau yn dod yn gyffredin yn y dyfodol."
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Tim Metcalfe, Arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu o ran Defnyddio Drylliau Tanio'n Droseddol: "Mae drylliau creu sŵn yn cael eu defnyddio gan droseddwyr a gellir eu troi nhw'n ddrylliau tanio angheuol.
"Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae heddluoedd a'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol wedi nodi ac amharu ar sawl gweithdy a ddefnyddiwyd er mwyn troi'r pistolau hyn yn arfau angheuol.
"Yn yr un cyfnod, casglwyd nifer fawr o arfau wedi'u newid ar draws sawl lleoliad, ochr yn ochr â miloedd o rowndiau o farilau creu sŵn a bwledi wedi'u haddasu.
"Fe wnaeth un ymchwiliad gasglu dros 400 o arfau wedi'u newid gan un grŵp trosedd. Mae galw mawr amdanyn nhw. Mae hyn i'w weld yn y nifer a gafodd eu mewnforio a'u casglu wedyn oddi ar droseddwyr.
"Bydd atal gwerthu'r drylliau creu sŵn hyn rhag cael eu newid yn mynd yn bell iawn er mwyn helpu gwarchod y cyhoedd."
Gellir rhoi drylliau creu sŵn yn unrhyw un o'r gorsafoedd heddlu isod ond cynghorir unrhyw un sy'n rhoi un yn ystod yr Amnest Drylliau Tanio i wirio amseroedd agor eu gorsaf nhw drwy'r wefan.
Er mwyn cael cyngor ar y ffordd orau o gludo'r arf yn gyfrifol o'r cartref i'r orsaf heddlu, ffoniwch 101 cyn teithio.
Os 'da chi'n gwybod am bobl sy'n gysylltiedig hefo drylliau tanio anghyfreithlon, ffoniwch yr heddlu ar 101 neu Crimestoppers ar 0800 555 111.
Mae pob galwad i Crimestoppers yn ddienw ac o bosibl yn hanfodol er mwyn atal neu ddatrys troseddau difrifol. Gall cael gwared ar ddryll tanio sy'n cael ei feddiannu'n anghyfreithlon achub bywyd rhywun.
Nodiadau:
Gellir mynd ag arfau i'r cownteri blaen canlynol:
Ewch ar www.nabis.police.uk er mwyn cael gwybod mwy am waith y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Balisteg Cenedlaethol (NABIS).