Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn fu’n arwain yr heddlu ar daith gyflym tra roedd ddwywaith dros y terfyn yfed a gyrru cyfreithlon fis diwethaf wedi cael ei garcharu.
Cafodd Dale Broome, 29 oed ac o Uplands Avenue, Portobello, Wolverhampton ei arestio yn ystod oriau mân 10 Rhagfyr ar ôl i’r heddlu dderbyn adroddiadau o yrru peryglus ar yr A55 ger Abergele.
Daliodd swyddogion o’r Uned Troseddau Ffyrdd i fyny hefo’r car a dechreuwyd ymlid, lle bu Broome yn gyrru ymhell dros y terfyn cyflymder, gan gynnwys 100mya ar ffordd 20mya.
Gyrrodd i lawr lôn wledig a daeth wyneb yn wyneb hefo swyddogion. Yna fe giliodd yn gyflym cyn mynd yn sownd mewn mwd ar arglawdd.
Cafodd Broome ei arestio a’i gyhuddo o yfed a gyrru a throseddau gyrru eraill gan gynnwys gyrru tra wedi’i wahardd, methu â stopio, gyrru’n beryglus a gyrru heb yswiriant. Cafodd ei gadw yn y ddalfa er mwyn ymddangos o flaen y llys y diwrnod wedyn lle cafodd ei gadw hyd nes ei ddedfryd.
Fe ymddangosodd Broome o flaen Llys y Goron Caernarfon ddoe (dydd Iau, 9 Rhagfyr) lle cafodd ei ddedfryd o 16 mis yn y carchar. Cafodd ei wahardd rhag gyrru am bedair blynedd ac wyth mis hefyd.
Drwy gydol mis Rhagfyr fe gefnogodd Heddlu Gogledd Cymru Ymgyrch Limit, sef ymgyrch genedlaethol sydd wedi’i hanelu at leihau gwrthdrawiadau traffig angheuol a difrifol a gwarchod defnyddwyr ffyrdd.
Daliwyd bron i 200 o bobl wrth y llyw tra eu bod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn ystod yr ymgyrch mis o hyd.
Gwelodd yr ymgyrch flynyddol yn erbyn yfed a gyrru, a gynhaliwyd o 1 Rhagfyr 2024 hyd at 1 Ionawr 2025, 66 arestiad am yfed a gyrru, a 108 am yrru ar gyffuriau.
Mae’r rhai a gafodd eu harestio ar amheuaeth o yrru ar gyffuriau rhwng 17 a 71 oed ac mae’r rhai a gafodd eu harestio ar amheuaeth o yfed a gyrru rhwng 20 a 78 oed.
Dywedodd y Rhingyll Emma Birrell oedd yn arwain yr ymgyrch ar ran yr Uned Troseddau Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Does dim trugaredd tuag at yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau drwy gydol y flwyddyn, ond fe fuon ni’n cynnal patrolau helaeth ar draws y rhanbarth yn ystod ein hymgyrch ni ym mis Rhagfyr. Roedd hyn yn cynnwys targedu llecynnau a stopio a chwilio ar ôl derbyn cudd-wybodaeth. Roedd swyddogion hefyd allan ar draws y rhanbarth yn stopio a chwilio ac fe ddiolchodd y mwyafrif o’r rhai a gafodd eu stopio.
“Nid ydy ein gwaith ni’n stopio oherwydd bod y Nadolig drosodd. Mae ein hymdrechion ni er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl yn saff tu ôl i’r llyw yng ngogledd Cymru’n parhau bob awr o’r dydd, bob dydd o’r wythnos, a phob dydd o’r flwyddyn. Does wir unman i guddio.
“Mae gyrru o dan ddylanwad yn golygu bod modurwyr yn cymryd risg bob tro y byddan nhw’n mynd tu ôl i lyw car. Maen nhw’n rhoi eu hunain a phobl eraill mewn perygl. Mae yfed a gyrru a gyrru ar gyffuriau yn difetha bywydau unigolion a chymunedau a gellir ei osgoi yn llwyr.
“Byddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i daclo hyn ond ‘da ni’n gofyn i’r cyhoedd am eu help. Os ‘da chi’n gwybod am, neu’n amau bod rhywun yn gyrru o dan ddylanwad, rhowch wybod i ni. Fe fyddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth er mwyn cyfeirio ein patrolau at lecynnau, er mwyn dal troseddwyr a’u tynnu nhw oddi ar ein ffyrdd ni.
“Yn sicr, hyn oedd yn digwydd hefo nifer o’r arestiadau a wnaed yn ystod yr ymgyrch. Roedd hyn yn cynnwys gyrrwr lori 36 oed o Ynys Môn a gafodd ei arestio ar ôl rhoi prawf positif am gyffuriau ar ochr y ffordd. Cafodd ei stopio diolch i aelodau o’r cyhoedd wnaeth ffonio 999 hefo pryderon ynglŷn â’r ffordd yr oedd yn gyrru. Aeth swyddog o’r Uned Troseddau Ffyrdd i chwilio amdano a dod o hyd iddo fo ar yr A55 Tal-y-Bont ger Bangor lle profodd yn bositif am gocên. Cafodd ei arestio ac mae eisoes wedi cael ei ryddhau o dan ymchwiliad.
“Er ein bod ni’n rhoi rhybuddion yn rheolaidd am beryglon gyrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, mae’n hynod siomedig bod gormod yn parhau cymryd y risg, felly fe fyddwn yn parhau gweithio er mwyn tynnu pobl sy’n credu ei bod yn dderbyniol i yrru o dan ddylanwad oddi ar y ffyrdd.”
Os ‘da chi’n amau bod rhywun yn gyrru pan na ddylent wneud hynny, riportiwch i’r heddlu drwy ffonio 101 (neu ffoniwch 999 os ydy’r perygl ar fin digwydd) neu ffoniwch Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.