Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyn Gaplan mewn ysgol yn Llandudno wedi cael dedfryd heddiw am greu lluniau anweddus o blant.
Mi gyfaddefodd Samuel Erlandson, 36 oed, o Stryd Fawr, Rhiwabon, i dri trosedd gan gynnwys dau drosedd o greu lluniau anweddus o blentyn a meddu llun pornograffig eithafol.
Mi ymddangosodd yn y Llys Ynadon, Llandudno heddiw (dydd Llun, 27 Ionawr), ac mi gafodd Erlandson ddedfryd o 32 wythnos yn y carchar, wedi’i ohirio am 18 mis.
Mi gafodd hefyd orchymyn i gofrestru efo’r heddlu fel troseddwr rhywiol am 10 mlynedd, ac mi dderbyniodd orchymyn atal niwed rhywiol sy’n para deg mlynedd.
Wrth siarad ar ôl y ddedfryd, dywedodd y swyddog archwilio, y Ditectif Gwnstabl Matthew Hoyle: “Mae’r troseddau wnaeth Erlandson eu cyflawni, oedd mewn swydd lle’r oedd pobl yn ymddiried ynddo yn yr ysgol lle’r oedd yn dysgu, o fewn yr Eglwys yng Nghymru a’r gymuned, yn peri pryder mawr.
“Mae ei weithrediadau wedi achosi gofid i lawer, oedd ar un tro’n ymddiried ynddo ac yn ei barchu.
“Yn ffodus, dydy o ddim yn cael gweithio efo plant rhagor, fydd yn atal unrhyw niwed pellach.
“Mae creu a dosbarthu lluniau anweddus o blant yn achosi niwed anfesuradwy i ddioddefwyr a’i teuluoedd, a ‘da ni’n ymrwymo dod â’r rhai sy’n cyflawni troseddau, boed hynny yn y cnawd neu ar-lein, o flaen eu gwell.”