Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae saith o bobl wedi cael eu harestio fel rhan o ymgyrch i amharu ar ddelio cyffuriau ar Ynys Môn.
Mae swyddogion wedi bod yn gweithio gyda Heddlu Glannau Mersi dros y naw mis diwethaf i atal ac amharu ar droseddau difrifol a chyfundrefnol yn yr ardal.
Dros dri diwrnod o weithredu, cafodd saith o bobl eu harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau gan gynnwys bod â chyffuriau dosbarth A yn eu meddiant gyda'r bwriad o'u cyflenwi, bod â chyffuriau dosbarth B yn eu meddiant, a throseddau yn ymwneud â lladrata ac ymosod.
Atafaelwyd arian parod, cocên a ketamine tybiedig a chafodd sawl archwiliad stopio a chwilio eu cynnal, gydag un person wedi'i arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru a gyrru o dan ddylanwad cyffuriau.
Ers hynny, mae'r rhai a gafodd eu harestio wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad tra bod ymholiadau'n parhau.
Dywedodd Rhingyll Cynorthwyol Chris Burrow: "Dros y naw mis diwethaf rydym wedi bod yn gweithio ar y cyd â Heddlu Glannau Mersi er mwyn cael gwared â chyffuriau ar yr ynys, a'r rhai sy'n eu defnyddio i dargedu a rheoli aelodau bregus o'r gymuned.
"Mae sawl diwrnod fel hwn wedi arwain at atafaelu cyffuriau dosbarth A a fyddai fel arall wedi cael eu gwerthu ar strydoedd Ynys Môn.
"Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau partner i gyfeirio'r rhai a ganfuwyd â chyffuriau yn eu meddiant at Checkpoint i roi cymorth iddynt i roi gorau i ddefnyddio cyffuriau.
Dywedodd yr Arolygydd Stephen Morris o Brosiect Medusa, Heddlu Glannau Mersi, prosiect sy’n mynd i'r afael â llinellau cyffuriau a chamfanteisio troseddol: "Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gweithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru i darfu ar linellau cyffuriau a diogelu pobl fregus. Yn ystod yr ymgyrchoedd hyn, mae swyddogion wedi gwneud arestiadau sylweddol ac wedi cipio arfau, cyffuriau ac arian anghyfreithlon, gan adnabod unigolion bregus sy'n cael eu hecsbloetio gan gangiau llinellau cyffuriau.
"Mae'r ymgyrch ddiweddaraf hon yn dangos y canlyniadau y gellir eu cyflawni wrth gydweithio i dargedu'r rhai sy'n ymwneud â'r math hwn o droseddu. Mae Prosiect Medusa, wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â phartneriaid a heddluoedd eraill i gau'r llinellau cyffuriau hyn a diogelu ein cymunedau."
Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth am gyffuriau yn y gymuned i gysylltu â'r heddlu drwy ein gwefan, drwy ffonio 101, neu drwy gysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.