Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 43 oed wedi cael ei garcharu ar ôl cyfaddef i drais domestig a throseddau stelcian.
Cafodd Simon Peter Murphy, o Rodfa Brynmor, Y Rhyl, ei ddedfrydu i 43 mis yn Llys y Goron yr Wyddgrug yn gynharach heddiw (dydd Gwener, 28 Chwefror).
Mewn ymddangosiad cynharach yn y llys, roedd Murphy wedi pledio'n euog i stelcian dros gyfnod o sawl mis.
Cyfaddefodd Murphy, a oedd yn torri gorchymyn peidio ag ymyrryd ar y pryd, ei fod wedi tagu'r ddynes ac wedi ei galw dro ar ôl tro o rif ffôn anhysbys er mwyn ei bygwth.
Gosododd ddyfais olrhain ar gerbyd y dioddefwr i fonitro ei symudiadau.
Digwyddodd y troseddau rhwng 21 Ebrill a 28 Mehefin 2024, ac yn ystod y cyfnod hwnnw anfonodd gyfres o negeseuon trahaus a bygythiol o broffil Facebook ffug.
Yn ystod y cyfnod hwn, cyfaddefodd Murphy hefyd i neidio ar foned car y ddynes, gan achosi difrod i'r cerbyd.
Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar, gosododd y Barnwr orchymyn atal 20 mlynedd arno a fydd yn amddiffyn y dioddefwr ymhellach.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Simon Price: "Mae stelcian yn drosedd ddifrifol a all waethygu'n gyflym ac achosi i ddioddefwr fyw mewn ofn.
"Roedd ymddygiad Murphy yn obsesiynol, yn ymosodol ac yn fygythiol ac mae wedi cael effaith ddinistriol ar y ddynes o dan sylw.
"Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn caniatáu i'r dioddefwr symud ymlaen, gan wybod nad yw Murphy bellach yn fygythiad i'w diogelwch.
"Rydym yn cymryd adroddiadau o stelcian o ddifri a byddwn yn eich cefnogi drwy gydol unrhyw ymchwiliad. Os ydych chi'n profi stelcian, peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun, rhowch wybod i ni amdano."
"Os ydych wedi dioddef stelcian neu gam-drin domestig, rhowch wybod i ni ar-lein neu drwy ffonio 101. Ffoniwch 999 mewn argyfwng bob amser."