Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
'Da ni'n ymchwilio i ymgais ar ladrata a ddigwyddodd mewn siop yn Wrecsam y prynhawn yma.
Am 1.05pm heddiw (dydd Iau, 13 Chwefror) adroddir bod dyn wedi bygwth aelod o staff yn siop AM/PM ym Mrynteg, cyn dianc.
Does dim adroddiad bod unrhyw beth wedi cael ei ddwyn yn ystod y digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Eleri Thomas: "'Da ni'n dilyn sawl trywydd er mwyn sicrhau bod y sawl sy'n gyfrifol am y digwyddiad hwn yn cael eu dal cyn gynted â phosibl.
"'Da ni'n deall fod presenoldeb swyddogion arfog yn yr ardal yn peri pryder. Mi fuaswn i'n hoffi tawelu meddwl y gymuned bod digwyddiadau o'r fath yn brin, ac ni chredir bod unrhyw fygythiad ehangach i drigolion."
"Mae'r chwilio'n parhau a bydd patrolau amlwg iawn yn cael eu cynnal yn yr ardal drwy'r nos at ddibenion tawelu meddwl."
Gofynnir i unrhyw un sydd hefo gwybodaeth a allai'n helpu ni hefo'n hymchwiliadau ni gysylltu hefo ni drwy ein gwefan ni, neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 25000120510."
Fel arall, gallwch gysylltu hefo'r elusen annibynnol Crimestoppers ar-lein yn ddienw, neu ar 0800 555 111.