Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dyma Arolygydd newydd Wrecsam Wledig sef Stefan Lederle.
Fe wnaeth yr Arolygydd Lederle, sydd wedi gwasanaethu hefo Heddlu Gogledd Cymru ers 22 mlynedd, gamu i'r rôl ym mis Ionawr 2025.
Wrth sôn am ei gynlluniau ar gyfer yr ardal sy'n cynnwys pob cymuned yn y sir y tu allan i'r ddinas, dywedodd yr Arolygydd Lederle y bydd yn canolbwyntio, hefo cymorth y Rhingyll Aled Hughes, ar amlygrwydd ac ymgysylltu hefo cymunedau. Bydd yn canolbwyntio hefyd ar atal a lleihau trosedd a gweithgarwch rhagweithiol penodol.
Yn ystod ei fis cyntaf yn y swydd, mae eisoes wedi uno hefo Dinas Wrecsam er mwyn parhau mynd i'r afael hefo'r nifer cynyddol o ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn ardaloedd yn Rhos, Ponciau a Johnstown.
Dywedodd: "Yn fy mis cyntaf yn y swydd, mae'r sylw wedi bod ar lansio Ymgyrch Lampoon, gan wneud y tîm yn fwy amlwg ac iddyn nhw ymgysylltu'n fwy. Roedd hyn yn dilyn cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB).
"Mi fyddai hefyd yn cydweithio hefo partneriaid er mwyn datrys problemau a nodi atebion tymor hirach i ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys rhoi ymyriadau ar waith hefo'r teuluoedd a cheisio eu helpu nhw."
Roedd y gŵr 47 oed, a gafodd ei yn Ne-ddwyrain Llundain, gynt yn arolygydd patrôl ac mae wedi gweithio mewn sawl ardal ar draws rhanbarth dwyreiniol yr heddlu.
Fe wnaeth ymuno yn 2003, flwyddyn ar ôl symud i Wrecsam, a dechreuodd ei yrfa fel swyddog ymateb ar Lannau Dyfrdwy. Yn ystod cyfnod o 10 mlynedd yng Ngogledd Sir y Fflint, roedd yn rhan o'r Tîm Plismona Cymdogaethau, gan gymryd cyfrifoldeb am ardal Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Aeth wedyn i ddinas Wrecsam fel Rhingyll, cyn symud i blismona ardal wledig Wrecsam.
Ar ôl treulio peth amser fel Rhingyll dalfa hefyd, symudodd draw i'r Rhaglen Gwella Optimeiddio (OIP) lle cymerodd rôl fel Arolygydd dros dro. Yno fe wnaeth ffurfio rhan o dîm a arweiniodd gynllun gwella dwy flynedd er mwyn ailstrwythuro dalfeydd yr heddlu.
Yn ystod y pandemig, bu'n gweithio ar draws De Sir y Fflint fel Rhingyll Tîm Plismona Cymdogaethau, cyn iddo ddod yn Arolygydd Patrôl yn 2021, lle arhosodd am y tair blynedd a hanner diwethaf.
Fe ychwanegodd yr Arolygydd Lederle: "Fel Arolygydd Wrecsam Wledig, dwi wedi ymrwymo gwneud yn siŵr bod ein cymuned ni'n teimlo'n saff ac yn cael help.
"Mae Wrecsam Wledig yn ardal amrywiol, sy'n cwmpasu cymunedau trefol a gwledig, ac mae hapusrwydd, cynhyrchiant ac angerdd ein swyddogion ni'n allweddol er mwyn rhagori yn yr hyn a all fod yn rôl heriol.
"Mae ein Tîm Plismona Cymdogaethau'n mynd ati er mwyn ymgysylltu hefo aelodau o'r gymuned a chynghorwyr er mwyn mynd i'r afael hefo pryderon a chydweithio. Mae hyn er mwyn creu amgylchfyd saffach.
"Yn ogystal, mae ein cysylltiad hefo Ymgyrch Protect wedi arwain at gynnydd sylweddol yn ein hymateb ni i gam-drin domestig, gan gyflawni canlyniadau cadarnhaol trwy ymdriniaeth dim goddefgarwch.
"'Da ni hefyd wedi ymrwymo mynd i'r afael hefo troseddau trefnedig difrifol yn effeithiol a thargedu'r rhai sy'n camfanteisio ar oedolion a phlant bregus yn ein cymunedau ni. Bydd ein swyddogion ni bob amser yn ymdrechu gwneud y peth iawn i ddioddefwyr a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl."