Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Uwcharolygydd wedi addo mynd ar drywydd unrhyw un sy’n camfanteisio pobl fregus a chynyddu amlygrwydd mewn ardaloedd lle mae lefelau troseddau’n uwch.
Arwel Hughes ydy’r Uwcharolygydd newydd dros Wynedd ac Ynys Môn.
Mi ddechreuodd y rôl ym mis Ionawr, ac mae’n arwain y timau plismona lleol a’r Adran Ymchwilio Troseddau (CID).
Yn siarad ar ôl ei fis cyntaf yn y rôl, dywedodd: “Fy sylw wrth symud ymlaen ydy ymdrin â throseddau difrifol a threfnedig.
“’Dwi eisiau canolbwyntio adnoddau er mwyn targedu a chael gwared ar y rhai sy’n camfanteisio pobl fregus yn ein hardal ni.
“’Dwi wedi dechrau cynlluniau ynglŷn â hyn yn lleol, a ‘dwi’n edrych ymlaen at siarad am hyn yn fwy manwl yn fuan.”
Mi gafodd yr Uwcharolygydd Hughes, sy’n siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, ei eni a’i fagu ar Ynys Môn, ac wedi treulio llawer o’i yrfa yn gweithio yng ngogledd-orllewin Cymru.
Mi ddechreuodd ei yrfa efo’r heddlu yn 2008 fel SCCH yng Nghaergybi.
Dros y blynyddoedd, mi symudodd ymlaen i rolau swyddog heddlu ac wedi gweithio mewn amryw o rolau fel plismona lleol, yr Adran Ymchwilio Troseddau, plismona rhagweithiol ac, yn fwy diweddar, ar waith cenedlaethol.
Mi aeth ymlaen: “’Dwi wedi bod yn teithio ar draws yr ardal er mwyn cyfarfod efo’r timau a phartneriaid cymunedol er mwyn deall y meysydd sy’n peri pryder.
“’Dwi’n falch gweld rhai canlyniadau gwych yn dwyn ffrwyth, a gwaith rhagweithiol rhagorol ar y gweill ar draws yr ardaloedd. Er enghraifft, mi gafodd cerbyd ei stopio a’i chwilio ar yr A55, lle mi atafaelwyd hanner cilogram o beth amheuir o fod yn gocên, sydd yn atal preswylwyr bregus rhag cael eu targedu a’u camfanteisio.
“Mi ‘roedd arestiadau cadarnhaol eraill ym mis Ionawr ynglŷn â throseddau sy’n cynnwys cam-drin domestig, ymosodiadau, gyrru ar gyffuriau a throseddau rhywiol. Mae’r rhain i gyd yn cyfrannu at greu lle mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld.”
Dywedodd yr Uwcharolygydd Hughes mai’r flaenoriaeth i dimau plismona lleol ydy cynyddu amlygrwydd mewn ardaloedd lle mae lefelau troseddau’n uwch, a chynnal safon ymchwilio uchel, yn enwedig ym meysydd byrgleriaethau, cam-drin domestig, trais difrifol, troseddau rhywiol a lladrata.
“’Dwi wedi mwynhau clywed gan aelodau’r gymuned, a ‘dwi’n awyddus parhau gweithio’n agos efo’r gymuned dros y misoedd i ddod, er mwyn ymdrin â’r hyn sydd bwysicaf i chi,” ychwanegodd.
Os oes gynno chi unrhyw bryderon ynglŷn â’ch ardal hoffech chi eu trafod efo’r heddlu, cysylltwch efo ni drwy ein gwefan, neu drwy ffonio 101.