Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wnaeth bwnio swyddog heddlu tan iddo golli ymwybyddiaeth wedi ei garcharu.
Mi ymddangosodd Gary Wyn Morgan, o Lôn y Cariadon, Bangor, yn Llys y Goron, Caernarfon ar ddydd Llun 3 Chwefror, lle cyfaddefodd ymosod ar dri gweithiwr gwasanaethau brys ac ymosodiad pellach.
Ar ddydd Sul 18 Awst, mi ‘roedd y dyn 33 oed yn ffraeo efo dyn arall, pan chwalodd blât dros ben y dyn arall cyn gadael.
Mi gafodd swyddogion hyd i Morgan ar 22 Awst ger Ffordd Deiniol ym Mangor, lle wnaethon nhw drio’i arestio, ond mi aeth yn ymosodol gan bwnio un swyddog a phoeri yn wyneb un arall.
Mi gafodd Morgan ei gludo i ddalfa’r heddlu, lle wnaeth ei ymddygiad treisgar tuag at swyddogion barhau, cyn iddo bwnio rhingyll y ddalfa yn asgwrn ei ên, gan ei achosi i ddisgyn i’r llawr a cholli ymwybyddiaeth.
Mi gafodd y swyddog ei gludo i’r ysbyty, lle ‘roedd angen pwythau er mwyn trin ei anafiadau.
MI gafodd Morgan ei garcharu am ddwy flynedd.
Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson: “Mi ‘roedd ymddygiad treisgar Morgan tuag at swyddogion yr heddlu, yn syml, yn gywilyddus.
“’Does dim lle i drais yng Ngwynedd, a ‘da ni gyd yn ymwybodol bod un pwniad yn gallu cael canlyniadau dinistriol ac hyd yn oed angheuol.
“Ni fyddwn yn goddef unrhyw ymosodiad ar weithiwr y gwasanaethau brys wrth geisio gwneud eu swyddi er mwyn cadw eraill yn ddiogel.
“Mae’r digwyddiad hwn yn siŵr o gael effaith tymor hir, nid yn unig ar y swyddogion cafodd eu brifo, ond ar eu cydweithwyr hefyd.
“Mi wnawn ni barhau i ymdrin yn gadarn â throseddwyr sy’n peryglu diogelwch aelodau’n cymunedau ni.”
Dywedodd Lewis Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol a Thrysorydd Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru,: “Tra bod Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru’n croesawu’r ddedfryd i’r carchar gafodd Gary Wyn Morgan, ‘da ni’n parhau tynnu sylw at yr angen i wella hyd y dedfrydau am ymosodiadau ar swyddogion.
“Mae Morgan wedi arddangos nad oes ganddo ots o gwbl am ein swyddogion, sy’n gweithio’n galed er mwyn cadw’r cyhoedd yn ddiogel. Ni allwn ni orbwysleisio perygl canlyniadau’r hyn a elwir yn drais “un pwniad”, a thra bod ein swyddogion efo lefelau sgiliau a hyfforddiant uwch, ‘da ni’r un mor fregus i ganlyniadau trychinebus posib gweithredoedd treisgar o’r fath.
“’Da ni’n parhau cynnig help i’n cydweithwyr ac mi hoffwn hefyd ddiolch i’r ymchwilwyr wnaeth gael cyfiawnder er mwyn eu cydweithwyr nhw mewn ffordd broffesiynol.”