Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 26 oed wedi’i garcharu am ei ran mewn anhrefn treisgar ar raddfa fawr yn Wrecsam, wnaeth achosi anafiadau difrifol i ddynes.
Mi ymddangosodd Reef Byfield, o Ben y Wern, Rhosllanerchrugog ar gyfer dedfryd heddiw (dydd Iau, 20 Chwefror) gerbron Llys y Goron, Yr Wyddgrug. Mi gyfaddefodd gyhuddiad o glwyfo drwy achosi niwed corfforol difrifol.
Mi dderbyniodd ddedfryd o 16 mis o garchar.
Mi ddigwyddodd yr anhrefn yn ardal Wern Las Rhosllanerchrugog ar 21 Medi, 2023, yn ymwneud â hyd at 50 o bobl ar y stryd.
Yn ystod y digwyddiad, mi gydiodd Byfield mewn olwyn beic a’i daflu ar draws y stryd, gan daro’r dioddefwr oedd yn ymyl swyddog heddlu, gan achosi iddi ddisgyn i’r llawr, colli ymwybyddiaeth ac anafu ei phen.
O ganlyniad yr anrhefn, mi ddioddefodd dri swyddog ymosodiadau ac anafiadau, ac mi anafwyd ddau arall.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Mark Griffiths: “Mi ‘roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus lle wynebodd nifer fach o swyddogion dorf hynod o wrthwynebus wrth geisio gwneud eu gwaith cyfreithlon.
“Mi achosodd y trais hyn iddyn nhw ofni am eu diogelwch.
“Mi arweiniodd cyfraniad Byfield at ddynes yn cael ei tharo i’r llawr a chael anafiadau i’w phen. Mi fuasai hyn wedi gallu anafu un o’r swyddogion yn ddifrifol.
“Mi ‘roedd ei ymddygiad y diwrnod hwnnw yn annerbyniol, a ‘dwi’n croesawu’r ddedfryd heddiw. ‘Dwi’n gobeithio ei fod yn wers i unrhyw un sy’n ddigon gwirion i ystyried cymryd rhan mewn anrhefn o'r fath yn y dyfodol.”
Mae dyn 28 oed yn disgwyl i’w achos gael ei brofi am droseddau ar wahân ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw.