Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 43 oed wnaeth fygwth ei gymdogion gyda machete wedi ei garcharu.
Mi ymddangosodd Gary Pierce Williams, o Gae Bold, Caernarfon, yn Llys y Goron, Caernarfon ar ddydd Mawrth, 18 Chwefror, ar ôl cyfaddef affräe.
Yn ystod oriau mân 21 Rhagfyr, mi safodd Williams y tu allan i gartref un o’i gymdogion, pan ddechreuodd eu bygwth a dweud bod ganddo arf.
Mi drïodd mynd i’r eiddo, gan beri gofid i’r preswyliwr am ei ddiogelwch.
Mi ddaeth yr heddlu i’r ardal ac arestio Williams, gan hefyd chwilio ei gartref. Mi gafwyd hyd i fachete ac arf arall y tu fewn.
Mi gafodd ei garcharu am 10 mis, ac mi dderbyniodd bump gorchymyn atal, sy’n ei wahardd rhag mynd i Gae Bold am bum mlynedd.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal, Ian Roberts: “Mi ‘roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus i breswylwyr Cae Bold, ac mae wedi cael effaith ddwys ar eu bywydau.
“Mi hoffwn i ddiolch i’r dioddefwyr a’r tystion am eu dewrder drwy gefnogi’r heddlu.
“’Da ni’n gweithio’n agos efo’n partneriaid yng Nghartrefi Gogledd Cymru er mwyn gwneud gwelliannau cadarnhaol yng Nghae Bold a helpu’r preswylwyr.”