Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 30 oed wedi’i gyhuddo mewn cysylltiad ag ymchwiliad i lofruddiaeth yn Wrecsam.
Toc cyn 12.30pm ar ddydd Sul, 23 Chwefror, mi gafodd swyddogion eu galw i gyfeiriad ar ystâd Gwynant yn Acrefair.
Mi ‘roedd yr alwad ynglŷn â phryderon am ddiogelwch dyn 37 oed.
Wedi i swyddogion gyrraedd y lleoliad, mi gafodd ei ddatgan yn farw gan barafeddygon.
Mae ymchwiliad i amgylchiadau marwolaeth y dyn ar y gweill, ac mi gafodd dau ddyn eu harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Mae Thomas Iveson, o Lôn Llyndir, Yr Orsedd, wedi ei gyhuddo heddiw (dydd Mercher, 26 Chwefror) o lofruddiaeth, ac mi wnaiff ymddangos gerbron Llys Ynadon Wrecsam ar ddydd Iau, 27 Chwefror.
Mae ail ddyn, sy’n 32 oed ac o Wrecsam, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i’r ymchwiliad barhau.
Mae’r Crwner wedi cael gwybod, ac mae teulu’r sawl fu farw yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.