Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn ein datganiad yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghaergybi neithiwr, rydym am dawelu meddyliau trigolion yr ardal drwy eu sicrhau ein bod yn gwrando arnynt ac ein bod wedi darllen eu sylwadau mewn ymateb i'r datganiad.
Dywedodd yr Arolygydd Rhanbarth Wayne Francis: "Mae'n amlwg bod ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) yn bryder cymunedol ac nid yw'n fater i'w fychanu neu ei ddiystyru fel ymateb i 'ddiflastod'.
"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael effaith ddifrifol ar bawb, yn enwedig trigolion oedrannus a bregus, sy’n methu â theimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain. Rydym yn cymryd adroddiadau o'r math hwn o ddifri a bydd yr heddlu yn ymchwilio iddynt ac yn gweithredu.
"Mae'r rhai sy'n ymddwyn fel hyn yn y gymuned yn gwastraffu adnoddau'r heddlu ac yn tynnu swyddogion a ddylai fod yn canolbwyntio ar droseddau difrifol oddi wrth eu dyletswyddau.
"Bydd ymateb graddedig i'r ymddygiad hwn gan y tîm plismona lleol, a byddwn yn ystyried gweithredu cadarn os bydd yr ymddygiad annerbyniol hwn yn parhau.
"I'r rhai nad ydyn nhw'n credu bod hwn yn fater difrifol - gadewch i mi ofyn i chi ystyried a myfyrio ar sut y byddech chi'n teimlo pe bai eich nain yn cael ei thargedu?
"Mae o i weld yn ddigri hyd nes ei fod yn digwydd i rywun dach chi'n nabod.
"Unwaith eto, rwy'n annog rhieni a gofalwyr i'n cefnogi trwy gael sgwrs gyda phobl ifanc am ganlyniadau ymddygiad gwael sydd wedi'i anelu at drigolion eraill.
"Mae Caergybi yn gymuned ardderchog, ac rydym am weithio gyda chi i wneud Caergybi yn lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, ond mae angen eich cefnogaeth arnom."
Mae'r Arolygydd Francis wedi bod ar batrôl heddiw gyda Rhingyll Maggie Marshall er mwyn siarad â thrigolion a chynnig sicrwydd iddynt.
Bydd swyddogion ar batrôl mewn ardaloedd sy'n peri pryder yr wythnos hon hefyd felly siaradwch â nhw os byddwch yn eu gweld.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu bryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal gysylltu â'r heddlu drwy ein gwefan, drwy ffonio 101, neu gysylltu’n ddienw gyda Crimestoppers.