Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu dynes a fu farw yn dilyn digwyddiad yng Ngwalchmai ar 6 Chwefror, wedi talu teyrnged iddi.
Roedd Emma Williams yn 47 oed ac yn byw ar Ynys Môn. Mae ei theulu wedi cyhoeddi'r deyrnged ganlynol iddi:
"Roedd Emma yn berson byrlymus, gofalgar a chariadus iawn. Roedd hi'n fam, chwaer, modryb ac yn ffrind da i gymaint o bobl.
"Roedd Emma yn caru ei mab Tommy ac yn ei garu'n ddiamod. Ef oedd y peth pwysicaf yn ei bywyd.
"I Tommy, nid ei fam yn unig oedd hi, ond hi hefyd oedd ei ffrind gorau. Roedd hi'n rhywun y gallai siarad â hi am unrhyw beth. Un o'r nifer o rinweddau yr oedd Tomi yn ei garu am ei fam oedd ei bod hi'n gallu gwneud i unrhyw un deimlo'n gyfforddus yn ei chwmni a byddai hi bob amser yn sicrhau eu bod yn gadael gyda gwên.
"Roedd Emma wrth ei bodd yn teithio a doedd hi byth yn ofni rhoi cynnig ar bethau newydd. Treuliodd lawer o wyliau yn Dubai gyda'i mab yn creu atgofion gwych.
Ychwanegodd brawd Emma, Chris: "Cafodd Emma a finnau blentyndod bendigedig, yn llawn hwyl a chwerthin. Cawsom ein bendithio â rhieni gofalgar a chariadus. Roeddem ni'n agos iawn. Roedd teulu yn bwysig iawn i Emma. Byddaf bob amser yn colli ei gwên, ei chwerthin, ei hysbryd anturus a'i hegni heintus.
Dywedodd rhieni Emma: "Cyffyrddodd Emma â chymaint o fywydau gyda'i natur garedig, ofalgar a chariadus. Roedd hi'n ffrind ffyddlon i lawer. Roedd ei synnwyr digrifwch ffraeth yn dod â chwerthin ble bynnag y byddai'n mynd. Roedd hi'n fywiog, yn allblyg ac roedd ei hegni positif yn heintus. Emma oedd calon ac enaid unrhyw ddigwyddiad; roedd hi'n gwybod sut i fyw a mwynhau pob eiliad.
"Roedd Emma yn gweithio'n galed ac roedd hi bob amser yn rhagori ar bopeth roedd hi'n ei wneud. Roedd pawb yn meddwl yn dda ohoni ble bynnag y bu hi'n gweithio.
"Er ein bod wedi ein llorio'n llwyr ac yn dal i geisio dod i delerau â cholli ein merch annwyl mor sydyn, hoffem ddiolch i'n ffrindiau a'n teulu a'r gymuned i gyd am eu cydymdeimlad didwyll sydd wedi bod yn gysur i ni i gyd."
Mae swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi teulu Emma yn ystod y cyfnod anodd hwn tra bod ymchwiliadau i'w marwolaeth yn parhau.