Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymholiadau'n parhau heddiw yn dilyn ymgais i ladrata mewn siop yn Wrecsam.
Am 1.03pm ddoe (dydd Iau, 13 Chwefror), aeth dyn i mewn i siop AM/PM ym Mrynteg gan fygwth aelod o staff am arian parod, gan honni bod ganddo wn, cyn gadael i gyfeiriad Holborn Crescent.
Ni chafodd unrhyw beth ei ddwyn ac ni welwyd unrhyw arf yn ystod y digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dean Jones: "Mae ymholiadau'n parhau heddiw i ddod o hyd i'r sawl sydd dan amheuaeth cyn gynted â phosib.
"Hoffwn sicrhau'r gymuned na welwyd unrhyw arf yn ystod y digwyddiad, er gwaethaf i’r dyn honni bod ganddo un, ac nid ydym yn credu bod unrhyw fygythiad ehangach i drigolion.
"Mae'r dyn, a oedd yn cuddio ei wyneb, yn cael ei ddisgrifio fel un mawr o gorff ac yn gwisgo dillad tywyll.
"Rwy'n gofyn i unrhyw un nad yw eisoes wedi bod mewn cysylltiad â'r heddlu sy'n byw yng nghyffiniau'r siop AM / PM, a'r rhai sy'n byw ar Holborn Crescent sydd â theledu CCTV, i weld a oes tystiolaeth o'r dyn dan amheuaeth ar eu camerâu.
"Gofynnir i unrhyw un a oedd yn gyrru yn yr ardal ar y pryd ac sydd â lluniau camera cerbyd i edrych ar eu camerâu am unrhyw ymddygiad amheus."
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â ni drwy ein gwefan, neu ein ffonio ar 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 25000120510.
Fel arall, gallwch gysylltu â'r elusen annibynnol Crimestoppers ar-lein yn ddienw, neu ar 0800 555 111.