Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 25 oed wedi cael ei gyhuddo yn dilyn ymgyrch er mwyn aflonyddu ar werthu cyffuriau Llinellau Cyffuriau ym Mangor.
Ar ddydd Mercher, 19 Chwefror, cynhaliwyd stopio a chwilio yn y ddinas, a arweiniodd at atafaelu llawer iawn o'r hyn a amheuir o fod yn gyffuriau Dosbarth A a B a thwca cig.
Cafodd Callum Kinney, o Lightbowne Road, Manceinion, ei arestio ac wedi hynny cafodd ei gyhuddo o fod hefo cyllell ac am feddu hefo'r bwriad o gyflenwi cocên, heroin a chanabis.
Cafodd Kinney ei gadw yn y ddalfa i ymddangos gerbron Llys Ynadon Llandudno y bore yma.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Ian Roberts: "Gall y grym stopio a chwilio hwn amharu ar droseddoldeb trefnedig ac mae'n helpu tynnu cyffuriau ac arfau oddi ar ein strydoedd ni.
"Does dim lle i gyffuriau na thrais yn ein cymuned ni a bydd ymgyrchoedd pellach yn parhau yn y misoedd nesaf yn ein hardal ni.
"'Da ni wedi ymrwymo creu amgylchfyd gelyniaethus i unrhyw un sy'n credu y gallan nhw fanteisio ar ein cymuned ni.
"Os oes gynnoch chi unrhyw wybodaeth am droseddoldeb yn ein hardal ni, cysylltwch hefo ni ar 101, neu drwy ein gwefan ni.
"Fel arall, gallwch gysylltu hefo'r elusen annibynnol Crimestoppers yn gyfan gwbl ddienw ar 0800 555 111."