Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nos Wener diwethaf, drwy wahoddiad gan Janet Finch-Saunders AS, fe aeth Prif Arolygydd Gorllewin Conwy Arfordirol sef Trystan Bevan a’r Arolygydd Catherine Walker i gyfarfod yng ngwesty’r Grand, Llandudno.
Diben y cyfarfod oedd trafod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref, sydd wedi bod o dan sylw mewn nifer o adroddiadau yn y cyfryngau dros y misoedd diwethaf.
Yn ystod y cyfarfod, mi gyflwynwyd rhestr gynhwysfawr o ganlyniadau i Ms Finch-Saunders, yn manylu sut mae gweithrediadau’r tîm plismona lleol wedi cyflawni llwyddiant cadarnhaol yn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mi gafodd y rhain eu cefnogi gan rai oedd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol, gan gynnwys gwestywyr lleol, yn ogystal â chynrychiolwyr o Ysbyty Llandudno a’r Cyngor Tref, oedd hefyd yn bresennol.
Yn groes i’r ffigyrau roddwyd i’r cyfryngau gan Ms Finch-Saunders, mae 198 “trosedd yn ymwneud â phobl ifanc” wedi’u riportio dros y 12 mis diwethaf. Mi ‘roedd 91 o’r rhain yn siopladradau.
Mi glywodd y cyfarfod bod y nifer o ddigwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â phobl ifanc wedi cyrraedd y brig ym mis Hydref y llynedd (51), ac mae’r nifer wedi gostwng yn raddol fesul mis ers hynny (23 hysbysiad oedd ym mis Ionawr).
Mae lefelau cyffredinol troseddau’n ymwneud â phobl ifanc hefyd wedi gostwng ers mis Tachwedd.
Mi amlinellodd y Prif Arolygydd Bevan nifer o fentrau sydd wedi achosi’r gostyngiadau hyn, gan gynnwys patrolau bwriadol Ymgyrch Restore ers mis Mai 2024 – 500 awr ychwanegol o batrolau amlwg iawn mewn llecynnau ymddygiad gwrthgymdeithasol - sydd yn ychwanegol at waith dyddiol patrolau cyffredinol, yn ogystal ag “wythnos o weithgarwch dwys”, yn ymwneud â swyddogion ychwanegol yn targedu troseddwyr hysbys.
Mi gododd Ms Finch-Saunders y mater fod nifer o’r llochesau ar y Promenâd yn cael eu difrodi. Mi ‘roeddem ni’n gallu rhoi gwybod iddi hi bod pedwar digwyddiad ar wahân (i gyd ar ddyddiau gwahanol), ond yn anffodus, ni gawsom ni wybod am y rhain tan y pedwerydd ddigwyddiad. Er hyn, mi gafwyd hyd i’r un o dan amheuaeth, sy’n mynd drwy’r system Cyfiawnder Ieuenctid am nifer o droseddau ar hyn o bryd, lle bydd panel yn penderfynu ar y camau priodol i’w cymryd.
Yn ogystal, mae chwech unigolyn ifanc wedi’u nodi fel eu bod yn gyfrifol am nifer o ddigwyddiadau troseddol yn ymwneud â phobl ifanc: mae un wedi bod i’r Llys ynglŷn â 6 trosedd ac wedi derbyn Gorchymyn Atgyfeirio. Mae dau unigolyn ifanc wedi cael eu trin y tu allan i’r Llys. Mae un yn disgwyl penderfyniad gan Gyfiawnder Ieuenctid, ac mae dau arall o dan sylw ymchwiliadau sydd ar y gweill.
Ynglŷn â’r digwyddiadau yn Ysbyty Llandudno, mae un o dan amheuaeth wedi’i adnabod, ac mae Cyfiawnder Ieuenctid yn ymdrin â’r achos ar hyn o bryd. Mae’r ysbyty wedi cadarnhau nad oes materion pellach wedi digwydd ers mis Tachwedd diwethaf. Mi wnawn barhau gweithio’n agos efo’n partneriaid er mwyn ymdrin ag unrhyw droseddau’n ymwneud â phobl ifanc.
‘Da ni hefyd wedi cael ein hysbysu o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu cyflawni gan oedolion yn ardal Neuadd y Dref. O ganlyniad i weithrediadau cadarn yr heddlu, mae’r grŵp wedi ei wasgaru, ac mae’r prif achoswr wedi’i remandio ar hyn o bryd yn disgwyl dedfryd, ynghyd ag unigolion eraill sydd wedi eu cyhuddo o amryw droseddau.
‘Does dim materion sy’n peri pryder yn dilyn y gweithrediadau hyn.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Gareth Evans: “Mae’n siomedig, er i’r tîm lleol ymgysylltu efo Ms Finch-Saunders dros gyfnod o fisoedd, ac wedi rhoi ystadegau cadarn yn dangos y lleihad cadarnhaol yn y problemau’n Llandudno, nad oedd ei sylwadau diweddaraf yn y cyfryngau lleol yn adlewyrchu hyn o gwbl, a’u bod yn negyddol ac yn parhau i sarhau’r dref. Mae hyn yn niweidiol i’r economi leol a’r gymuned ehangach.
“Mi hoffwn i ei wneud yn glir ei bod yn hanfodol fod y gymuned yn gwybod mai’r unig le i riportio troseddau ydy’n uniongyrchol i’r heddlu, cyn gynted â phosib.
“Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau i ni ymdrin â digwyddiadau mewn modd amserol, gan asesu’r risg, bygythiad a’r niwed i’r gymuned, yn ogystal â rhoi gwybod i ni am unrhyw lecynnau, er mwyn i’r adnoddau priodol gael eu cyfeirio i le maen nhw eu hangen fwyaf.
“Yn olaf, mi hoffwn i ddiolch i’r gymuned leol am eu help a’u cydweithrediad aruthrol parhaus.”
Mae nifer o ffyrdd i chi riportio trosedd i ni: mewn argyfwng neu os oes trosedd ar y gweill, ffoniwch 999. Os nad ydy’n argyfwng, mi gewch chi gysylltu drwy ein sgwrs fyw, neu’r ffurflen riportio ar ein gwefan. Fel arall, mi allwch chi ffonio 101, ac os ydy’r ystafell reoli yn hynod o brysur ar y pryd, mi gewch gynnig i ni eich ffonio chi’n ôl er mwyn i chi gael riportio.