Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Sir y Fflint wedi ei garcharu am 16 mlynedd am ymosodiadau rhywiol ar dair merch.
Mi gyflawnodd Adam Griffiths, heb gyfeiriad sefydlog, y troseddau dros gyfnod o saith mlynedd.
Yn ymddangos yn Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw, dydd Llun, 17 Chwefror, mi gafodd ei garcharu ar ôl ei ganfod yn euog gan reithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug ym mis Ionawr.
Mi dderbyniodd dair dedfryd yn olynol, sef cyfanswm o 16 mlynedd yn y carchar, yn ogystal â thrwydded ychwanegol.
Mi fydd yn droseddwr rhywiol cofrestredig am gyfnod benagored, ac mi dderbyniodd orchmynion atal er mwyn gwarchod y dioddefwyr a’u teuluoedd am y 10 mlynedd nesaf.
Mi dderbyniodd orchymyn atal niwed rhywiol hefyd.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Ben Franklin: “Mae’r tair dioddefwr a’u teuluoedd wedi bod yn hynod o ddewr drwy gydol yr ymchwiliad hwn, a ‘dwi’n cymeradwyo pob un am eu dewrder yn riportio Griffiths i ni.
“Mae nhw i gyd wedi cael profiad erchyll, a ‘dwi’n gobeithio bod eu meddyliau wedi’u tawelu drwy wybod na fydd Griffith yn medru eu brifo nhw, na neb arall, rhagor.
“Mae canlyniad heddiw yn adlewyrchu ein hymrwymiad ni i ddod â throseddwyr rhywiol o flaen eu gwell, a sicrhau bod dioddefwyr a phlant yn cael gwrandawiad a’u bod yn cael eu gwarchod.
“’Dwi’n gobeithio bydd yr achos hwn yn annog pobl eraill sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol i ddod atom ni. Mae hefyd yn atgoffa unrhyw un sy’n cyflawni’r troseddau ffiaidd hyn eu bod nhw’n mynd i wynebu canlyniadau eu gweithrediadau – waeth sut na phryd mae’r cam-drin rhywiol wedi digwydd.”