Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn a phlentyn wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam ar ddydd Sul, 2 Chwefror.
Mi gafodd ei riportio bod gyrrwr fan fach wen neu arian yn teithio ar hyd Lôn Hullah, Wrecsam, wedi taro dau gerddwr tua 5.50pm.
Ni wnaeth gyrrwr y fan, wnaeth golli’r drych oddi ar ochr teithiwr y fan, stopio ar ôl y gwrthdrawiad.
Mi ddaeth y gwasanaethau brys, ac o ganlyniad aeth y ddau gerddwr i’r ysbyty efo anafiadau difrifol.
Dywedodd PC Scott Duncan, o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “’Dwi’n apelio ar unrhyw un welodd y gwrthdrawiad, ac sydd heb siarad efo’r heddlu’n barod, i ddod atom ni.
“’Dwi hefyd yn apelio ar unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal ac a welodd fan sy’n cyd-fynd efo’r disgrifiad uchod, i gysylltu efo ni, ac yn enwedig unrhyw un efo fideo camera cerbyd neu TCC allai ein helpu ni efo’n ymchwiliad ni.
“Gall eich help chi fod yn hanfodol er mwyn adnabod y cerbyd neu’r rhai sy’n gyfrifol.”
‘Da ni’n annog unrhyw un efo gwybodaeth gysylltu efo ni drwy ein gwefan ni neu drwy ffonio 101, gan ddefnyddio’r cyfeirnod 25000089651.