Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dynes 27 oed a wnaeth gyflawni byrgleriaeth yng nghartref dynes oedrannus wedi cael ei charcharu.
Ymddangosodd Billie Jo Kane, heb gartref sefydlog ond o Lanbedergoch, yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Iau, 27 Chwefror ar ôl cyfaddef i fyrgleriaeth.
Digwyddodd hyn ar 23 Hydref 2023, ar ôl i Kane orfodi ei ffordd i mewn i gartref gwledig y ddynes ger Brynteg, gan ddwyn eitemau sentimental gan gynnwys ffotograffau, a £100 o arian parod.
Cafodd ei charcharu am ddwy flynedd a chwe mis.
Yn dilyn y digwyddiad, cafodd Kane gymorth ei chymar, Ieuan Parry, i gladdu car yr oedd wedi ei ddefnyddio er mwyn cyflawni'r fyrgleriaeth.
Cafodd y dyn 28 oed o Lanbabo, Rhosgoch, a wnaeth gyfaddef cynorthwyo troseddwr, ei ddedfrydu i 16 mis yn y carchar, wedi'i ohirio am 18 mis yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Iau, 27 Chwefror.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Richard Griffith: "Roedd hwn yn ddigwyddiad hynod ymosodol a thrawmatig i'r dioddefwr, a ddylai fod wedi bod yn saff yn ei chartref ei hun.
"Fe wnaeth Kane ddwyn eitemau sentimental o werth mor fawr nad oedd posib i'r dioddefwr eu newid, sydd yn anffodus erioed wedi eu cael yn ôl.
"Ni ellir tanbrisio camau Kane. Er na fydd unrhyw ddedfryd yn adlewyrchu'r trawma parhaol a brofwyd gan y dioddefwr, dwi'n canmol ei dewrder drwy gydol yr ymchwiliad."
DS: Mae dyn 49 oed yn aros am achos llys ar ôl gwadu troseddau mewn cysylltiad â'r achos hwn.
Oherwydd achosion troseddol ar waith, 'da ni'n atgoffa aelodau o'r cyhoedd y gall sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol fod yn niweidiol i achos llys a bod yn ddirmyg llys. Peidiwch â gwneud sylwadau ar y cyhoeddiad hwn hefo unrhyw ddyfalu neu honiadau ynghylch yr achos llys sydd ar y gorwel.
Sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol: Edrychwch ar ein canllawiau ni o ran cymuned y cyfryngau cymdeithasol ar ein gwefan ni: Canllawiau'r gymuned cyfryngau cymdeithasol | Heddlu Gogledd Cymru