Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Arestiwyd tri ar ôl i ddwy fferm ganabis gael eu darganfod yn Wrecsam yr wythnos hon.
Ar ddydd Sul, 6 Ebrill, cafodd yr heddlu wybod am fferm ganabis soffistigedig mewn safle ar Conery Lane, Bronnington, yr Eglwys Wen.
Cyflawnwyd gwarant gan yr heddlu ac ar ôl mynd i mewn i'r adeilad, gwelwyd dros 2,000 o blanhigion y tu mewn.
Cafodd dau ddyn eu harestio yn y fan a'r lle ond maent wedi cael eu rhyddhau ers hynny.
Mae nifer o eitemau wedi'u atafaelu tra bod ein hymchwiliadau yn parhau.
Ar ddydd Mawrth, 8 Ebrill, gweithredodd swyddogion warant arall mewn safle ar Ystâd Ddiwydiannol Advance Park yn Rhosymedre a darganfod cyflenwad mawr arall.
Cafodd un dyn ei arestio ac ers hynny mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth hyd nes y bydd ymchwiliadau pellach yn digwydd.
Dywedodd Rhingyll Ardal Cynorthwyol Aled Hughes: "Fe wnawn ni barhau i dargedu'r rhai hynny sy'n achosi niwed difrifol yn ein cymunedau.
"Mae ein gwaith yn taclo'r math hwn o drosedd yn dibynnu ar wybodaeth gan y cyhoedd. Nhw yn aml yw'r cyntaf i sylwi ar rywbeth amheus yn eu cymunedau. Mae adnabod, targedu a datgymalu ffermydd canabis mawr hefyd yn ein galluogi i atal troseddau mwy difrifol, ac amddiffyn y rhai sy'n agored i gael eu hecsbloetio gan hyn.
"Mae ffermydd canabis hefyd yn berygl difrifol i'r cyhoedd. Mae'r ynni sydd ei angen i redeg y ffermydd yn golygu bod troseddwyr yn aml yn osgoi talu amdano, sy'n achosi risg tân sylweddol."
Gall unrhyw un sydd â phryderon am gyflenwad cyffuriau yn eu hardal roi gwybod i ni trwy ein gwefan neu drwy ffonio 101, neu yn ddienw trwy'r elusen annibynnol, Crimestoppers.