Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 32 oed wnaeth ddifrodi a cheisio dwyn oddi wrth bum busnes yn Wrecsam wedi ei garcharu.
Mi ymddangosodd Shaun Roberts, sydd heb gyfeiriad sefydlog, yn Llys Ynadon yr Wyddgrug ar ddydd Sadwrn, 12 Ebrill, lle mi gyfaddefodd fyrgleriaeth efo’r bwriad o ddwyn, dau drosedd o geisio byrgleriaeth efo’r bwriad o ddwyn, a dau drosedd o ddwyn.
Ar 29 Mawrth, mi chwalodd Roberts ddrysau blaen dwy siop ar Stryt y Banc, gan achosi difrod sylweddol, a llwyddo i gael mynediad i un ohonyn nhw.
Dim ond deuddydd yn ddiweddarach, ar 31 Mawrth, mi aeth Roberts i siop ar Stryt Yorke, a dwyn tair siaced gwerth £867. Mi aeth staff ar ôl Roberts wrth iddo adael y siop a chael y siacedi’n ôl.
Yn ystod oriau mân 4 Ebrill, mi chwalodd Roberts ddrysau blaen dau fusnes unwaith eto, ar Strydoedd yr Eglwys a’r Bont, gan gymryd arian parod oddi wrth un ohonyn nhw.
Mi ddefnyddiodd swyddogion y systemau TCC ar draws canol y ddinas ac adnabod Roberts ymhob lleoliad yn achosi difrod drwy gydol yr wythnos.
Mi gafodd ei garcharu am 12 mis, ac mi gafodd orchymyn i dalu £1000 mewn iawndal.
Dywedodd Arolygydd Dros Dro’r Ardal, Tom Dewberry: “Mae gwarchod staff, busnesau a’u cwsmeriaid rhag y math yma o droseddoldeb yn flaenoriaeth yn ninas Wrecsam.
“’Da ni’n parhau i ymdrin yn gadarn efo troseddwyr fel Roberts, er mwyn gwarchod y rhai sy’n gweithio yn y sector manwerthu a lleihau troseddau manwerthu.
“’Dwi’n gobeithio bod busnesau canol y ddinas yn dawel eu meddwl na all Roberts achosi rhagor o ddifrod i’r busnesau mae nhw’n gweithio mor galed ynddyn nhw, er mwyn darparu gwasanaeth i’r gymuned.”