Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae SCCH gyflawnodd gwrs mewn Iaith Arwyddion Prydeinig (IAP) yn ddiweddar yn sôn am sut mae o’n elwa o’i sgiliau newydd yn barod.
Mi gymerodd ddeg swyddog a staff yr heddlu ran mewn cwrs pum wythnos rhwng 11 Mawrth a 8 Ebrill, ac o ganlyniad ennill cymhwyster lefel un IAP.
Mae SCCH Jack Mitchelmore wedi manteisio ar y cyfle i ddefnyddio’i sgiliau newydd yn y gymuned yn barod. Dywedodd: “Fel SCCH, ‘dwi angen meithrin perthnasau cryf ac ymgysylltu efo pob aelod o'r gymuned.
“Mae’r cwrs hwn wedi rhoi’r hyder i mi gyfathrebu’n well efo a chynorthwyo’r rhai yn y gymuned fyddar, hefyd.”
Wedi cwblhau’r cwrs, mi gyflwynwyd y staff a’r swyddogion efo bathodynnau i’w gwisgo tra’n gweithio, er mwyn dangos eu bod wedi cael hyfforddiant IAP.
Mi barhaodd Jack: “’Dwi wedi gallu ymarfer yr hyn wnes i ei ddysgu’n barod ar ddau achlysur wrth fod allan ar batrôl.
“Yn gyntaf, yn defnyddio arwyddion efo rhiant a’u plentyn, ac yna eto efo teulu o Birmingham oedd yn ymweld â Llanberis efo’u mab byddar.
“Ar y ddau achlysur, mi ‘roedd y teuluoedd wedi’u synnu at fy ngwybodaeth sylfaenol o’r iaith, ac mi wnaethon nhw fy annog i barhau efo’r dysgu.
“Mae medru cael sgwrs sylfaenol yn gwneud gwahaniaeth mawr er mwyn gwneud i rywun deimlo’u bod yn cael eu clywed a’u deall.”
Mi gynhaliwyd y cwrs mewn partneriaeth efo Grŵp Llandrillo Menai. Mi ddatblygodd y tiwtoriaid IAP arbenigol gwrs wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer senarios plismona, gan sicrhau bod swyddogion yn cael sgiliau y gallan nhw’u defnyddio yn eu gwaith bob dydd.
“Mi hoffwn ddiolch yn fawr i David ac Abi o Goleg Llandrillo Menai am wneud y cwrs mor ddifyr ar gyfer fy nghydweithwyr a minnau.
“’Dwi’n edrych ymlaen at ddefnyddio fy sgiliau newydd eto’n fuan, er mwyn datblygu fy ngwybodaeth a dealltwriaeth o IAP ymhellach.”
Yn dilyn llwyddiant y cwrs cyntaf, mi fydd cyrsiau IAP pellach yn cael eu cyflwyno yn y misoedd nesaf, er budd pellach i aelodau o’r gymuned fyddar ledled Gogledd Cymru.
‘Da ni’n recriwtio Swyddogion CCH i ymuno efo Heddlu Gogledd Cymru rŵan. Os ‘da chi’n angerddol ynglŷn â gweithio yng nghalon y gymuned, efallai mai hon ydy’r swydd i chi. Ymgeisiwch drwy ein gwefan heddiw.