Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yn parhau efo’r gwaith efo partneriaid, er mwyn creu newid cadarnhaol ar Stryd Fawr Bangor.
Mi gynhaliwyd ymweliadau ar y cyd i 10 busnes ynghanol y ddinas, fel rhan o’r fenter amlasiantaeth, Adnewyddu Bangor. Ei nod ydy mynd i’r afael â materion wedi’u nodi gan y gymuned leol, gan gynnwys cyflenwi cyffuriau, graffiti, ymddygiad gwrthgymdeithasol, yfed ar y stryd a thrais rhywiol.
Mi weithiodd yr heddlu efo cydweithwyr o’r gorfodaeth mewnfudo, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a swyddogion Safonau Masnach a Gorfodaeth Cartrefi Cyngor Gwynedd, er mwyn ymgysylltu efo busnesau ynglŷn â’r fenter, a gwirio cydymffurfiaeth efo ymarferion cyfreithlon.
O ganlyniad i’r ymgyrch, mi dderbyniodd dau eiddo orchmynion troi allan oherwydd torri amodau preswyl a thorri rheoliadau tân.
Dywedodd Rhingyll Liam Carr: “’Da ni’n parhau i weithio’n agos efo nifer o bartneriaid er mwyn gwneud Bangor yn le diogel i fyw, gweithio ac ymweld.
“Yn gyffredinol, ‘da ni’n falch o weld bod y rhan fwyaf o fusnesau yn cael eu rhedeg mewn modd cyfreithlon a diogel, ac yn gefnogol o’r nod o greu newid cadarnhaol ar y Stryd Fawr.
“Mi gaiff Adnewyddu Bangor yr effaith fwyaf os ‘da ni’n parhau i weithio efo’n gilydd, ac mi fuaswn i’n annog preswylwyr i gysylltu efo ni efo unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw ynglŷn â’r Stryd Fawr neu’r ddinas ehangach.”
Dylai unrhyw un efo pryderon neu faterion ynglŷn â Stryd Fawr Bangor gysylltu efo’r heddlu, neu’r asiantaethau partner perthnasol.