Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae swyddogion yn gweithio efo Cyngor Gwynedd er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar fysus ar draws Gwynedd.
Mi fydd posteri i’w gweld ar arddangosfeydd trydanol ac ar fysus sy’n teithio drwy Gaernarfon, yn rhybuddio teithwyr na fydd ymddygiad sarhaus nag amhriodol yn cael ei oddef, a bydd fideo TCC yn cael ei rannu efo’r heddlu.
Mae’r ymgyrch yn digwydd o ganlyniad i nifer o adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddau casineb, troseddau rhywiol a threfn gyhoeddus yn ystod y misoedd diweddar.
Mi fydd swyddogion yn teithio ar fysus ar draws y sir er mwyn gwella diogelwch cwsmeriaid a staff, a thawelu meddwl y rhai sydd efallai’n teimlo’n fregus.
Dywedodd Rhingyll Rebeca Hughes: “Mae llawer o aelodau’r cyhoedd yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys pobl hŷn a phlant ysgol.
“Ni ddylai raid iddyn nhw weld na phrofi ymddygiad bygythiol neu frawychus.
“Yn ystod y 12 mis diwethaf, ‘da ni wedi cael gwybod am nifer o yrwyr bysus yn dioddef ymosodiadau ar ôl herio ymddygiad amhriodol ar y bysus, sy’n hollol annerbyniol gan mai ond gwneud eu swydd maen nhw.
“’Da ni’n credu bod y posteri, drwy gael eu harddangos yn barhaol, yn anfon neges eglur i’r gymuned na wnaiff yr heddlu, Cyngor Gwynedd na’r cwmnïau bysus oddef unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol o unrhyw fath, ac mi fydd troseddwyr yn cael eu dal yn atebol.”
Mi ddylai unrhyw un sy’n gweld neu’n profi ymddygiad amhriodol tra maen nhw ar fys gysylltu efo’r heddlu drwy ein gwefan, drwy ffonio 101, neu 999 os oes trosedd ar y gweill.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer yr Amgylchedd: “Mae’n dorcalonnus gweld digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol a difrod troseddol yn digwydd yn ein cymunedau – yn enwedig ar ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, gan bod llawer o bobl yn dibynnu arno bob dydd. Does dim lle o gwbl i’r math yma o ymddygiad yn ein sir. ‘Da ni’n condemnio’r gweithrediadau hyn ac yn estyn ein cydymdeimlad a’n cefnogaeth i’r gyrwyr bysus a’r teithwyr sydd wedi’u heffeithio gan weithrediadau difeddwl grŵp bach o bobl.
“’Da ni’n falch iawn o weithio’n agos efo’n partneriaid yn Heddlu Gogledd Cymru ar yr ymgyrch bwysig hon. ‘Da ni’n annog unrhyw un sydd wedi gweld neu brofi’r fath ymddygiad i’w riportio. Mae’n bwysig eich bod yn lleisio’ch pryderon, a gyda’n gilydd gallwn ni anfon neges eglur bod ein bysus ni – a phob man cyhoeddus – angen bod yn lefydd diogel a pharchus ar gyfer pob un ohonom ni.”