Stamp amser presennol: 07/07/25 20:09:04
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

North Wales Police crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi
  1. ...
  2. Newyddion

Ymgyrch Apex: Ymgyrch Diogelwch Beiciau Modur 2025

Cynnwys y prif erthygl

Newyddion
Cyhoeddwyd: 16:18 02/04/25

Mae ymgyrch, sydd efo’r nod o leihau’r risg o farwolaethau ac anafiadau difrifol yn ymwneud â beicwyr modur ar ffyrdd Gogledd Cymru, ar y gweill ar draws y rhanbarth.

Mae Ymgyrch Apex (Ymgyrch Darwen gynt) yn cael ei gynnal o’r gwanwyn hyd at ddechrau’r hydref, sef y cyfnod sy’n gweld y nifer fwyaf o feicwyr modur yn cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol. Nod yr ymgyrch ydy gwella diogelwch beicwyr modur gyda phatrolau amlwg gan swyddogion ar hyd ffyrdd allweddol, sydd wedi’u nodi fel ardaloedd peryglus.

Dros y misoedd nesaf, mi fydd swyddogion o’r Uned Troseddau Ffyrdd ar ddyletswydd ledled y rhanbarth ac mi fyddan nhw hefyd yn ymgysylltu â beicwyr mewn mannau sy’n boblogaidd efo nhw.

Mae beicwyr modur ymhlith y grwpiau o ddefnyddwyr y ffordd sydd fwyaf bregus, ac maen nhw’n fwy tebygol o gael eu hanafu ac o fod mewn gwrthdrawiadau na defnyddwyr eraill y ffordd. Er nad ydy beicwyr modur o bosib ar fai, mae natur agored y drafnidiaeth yn golygu eu bod nhw’n dioddef anafiadau mwy difrifol mewn gwrthdrawiad.

Dywedodd Prif Arolygydd Caroline Mullen-Hurst o Heddlu Gogledd Cymru: “’Da ni’n edrych ar pob gyrrwr fel rhan o Ymgyrch Apex.  Fodd bynnag, yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf mi fyddwn ni’n canolbwyntio ar ddiogelwch beicwyr modur, wrth i nifer fawr ohonyn nhw gymryd mantais ar y tywydd da a’r golygfeydd gwych sydd gennym yma yng Ngogledd Cymru.

“Mi fydd yr ymgyrch yn ein gweld ni’n canolbwyntio ein gorfodaeth ni mewn ymgais er mwyn lleihau unrhyw anafiadau a gwrthdrawiadau pellach drwy fabwysiadu dull dim goddefiant.

“Llynedd, mi gafodd 60 o feicwyr modur eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd Gogledd Cymru, ac er bod gostyngiad o 33% wedi bod o’i gymharu â’r flwyddyn gynt, ‘da ni ddim yn hunanfodlon. ‘Da ni, fel yr heddlu, eisiau atal niwed ac anafiadau a chaniatáu i bawb fwynhau’r ffyrdd wrth iddyn nhw brysuro, ac yn cael eu rhannu rhwng pob math gwahanol o ddefnyddwyr y ffyrdd.

“Mae diogelwch y ffyrdd yn gyfrifoldeb i ni gyd - boed fel gyrrwr, beiciwr modur, seiclwr neu gerddwr. Hoffwn fachu ar y cyfle hwn i ofyn wrth bawb gymryd gofal ychwanegol wrth fod allan ar y ffyrdd, meddwl am eu hymddygiad nhw a pha newidiadau gallan nhw’u gwneud er mwyn gwella’u diogelwch eu hunain, yn ogystal â defnyddwyr eraill y ffyrdd.

“Oherwydd y nifer o feicwyr modur a ddisgwylir bod ar y ffyrdd dros yr wythnosau nesaf, mae modurwyr hefyd yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus o feicwyr modur yn ystod eu siwrne a sicrhau eu bod yn caniatáu digon o le wrth ddilyn beicwyr. Mae gyrwyr hefyd yn cael eu hannog i chwilio am feicwyr wrth dynnu allan o gyffordd, wrth droi i’r dde ac ar gylchfannau – mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn ffactor cyffredin mewn rhai o’n gwrthdrawiadau ni.

“Mae gan feicwyr rôl bwysig i'w chwarae gan sicrhau eu diogelwch eu hunain, drwy deithio ar gyflymder priodol ar gyfer y ffordd, y tywydd a'r amodau traffig, cornelu troadau i’r chwith,  gwisgo dillad llachar a sicrhau eu bod nhw’n beicio o fewn eu gallu. Mae gwisgo helmed a dillad priodol eraill bob amser hefyd yn hanfodol.

Mi ychwanegodd CI Mullen-Hurst: “Y tu ôl i bob damwain, mi fydd teulu sy'n disgwyl i'r rhai sy'n gysylltiedig ddod adref. Nid difetha hwyl pobl ydy diben yr ymgyrch hon. Mae'n annog beicwyr a gyrwyr fod yn ddiogel a chyfrifol gyda'r nod o leihau'r nifer o wrthdrawiadau."

Ynghyd â phatrolio ffyrdd y rhanbarth, bydd Heddlu Gogledd Cymru’n cydweithio’n agos efo’r Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol (NPAS), gan ddefnyddio eu hawyren fel rhan o’r cynllun patrôl.

Llynedd, mi ‘roedd yr awyren yn gallu darparu data byw i swyddogion – gan leoli a chyfeirio swyddogion at fannau ‘roedd beicwyr modur yn cael eu gweld yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Mi ‘roedd yr awyren yn arwain y swyddogion oedd ar y ffordd at leoliad y beicwyr, lle cawson nhw gyfle i’w stopio nhw er mwyn cael sgwrs.

Dywedodd Rhingyll Leigh McCann o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Mi fuasem yn hoffi diolch i NPAS am eu help parhaol gyda’n hymgyrch ni.

“’Da ni wedi ymrwymo diogelu pobl ar ffyrdd Gogledd Cymru – ‘da ni eisiau i bawb fwynhau’r ffyrdd, ond yn bwysicach fyth ‘da ni eisiau i bawb reidio neu yrru’n ddiogel a chyfrifol.

“Fel beiciwr modur brwdfrydig fy hun, dwi’n gwybod fy mod innau, ynghyd â fy nghydweithwyr eraill sy’n beicio, yn angerddol am sut allwn ni gydweithio er mwyn ceisio lleihau gwrthdrawiadau.

“Tra bod y rhan helaeth o fodurwyr yn ymddwyn yn briodol, mi fyddwn ni’n parhau targedu pawb sy’n reidio neu’n gyrru’n beryglus, yn rhy gyflym, yn pasio cerbydau eraill ar linellau di-dor neu sy’n cyflawni unrhyw drosedd traffig y ffordd.

“Dros y misoedd nesaf, mi fyddwn ni ar ddyletswydd ar draws y rhanbarth yn ymgysylltu efo beicwyr mewn mannau poblogaidd. Os fyddwch chi’n ein gweld ni, dewch draw am sgwrs. Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol lle fyddwn ni’n hysbysebu lle fyddwn ni.”

Mae beicwyr modur yn cael eu hannog i gymryd mantais o’r gweithdai Beicio Diogel (BikeSafe) sydd wedi’u cynllunio ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mi allwch chi archebu lle drwy www.bikesafe.co.uk

Dilynwch yr Uned Troseddau Ffyrdd ar Facebook drwy @NWPRPU neu ddilyn yr hashnodau #YmApex #PwyllBywyd a'r #5Angheuol.

Nodiadau:

  • Mi gafodd chwe beiciwr modur eu lladd yng Ngogledd Cymru yn 2024.
  • Yn 2023, mi gafodd 89 o feicwyr modur eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yng Ngogledd Cymru – cynnydd o 3.4% o’i gymharu â’r flwyddyn gynt, a chynnydd o 24% o’i gymharu â ffigyrau 2021, a 21% yn uwch na 2019.
  • Mi gafodd 8 beiciwr modur eu lladd yn 2023 (cynnydd o 33% o’i gymharu â’r flwyddyn gynt).

NPAS_RCU.JPG

image613yt.png

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Gogledd Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Gwasanaeth Sgwrsio
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throsedd
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024​. Cedwir pob hawl.