Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 27 oed wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd am dagu.
Cyfaddefodd Connor Gressley-Jones, o Bath Street, y Rhyl, ei fod wedi tagu merch yn ei harddegau yn fwriadol yn dilyn digwyddiad yn y Rhyl yn gynharach eleni.
Cafodd ei garcharu am ddwy flynedd yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Iau, 10 Ebrill a derbyniodd orchymyn atal pum mlynedd er mwyn diogelu’r dioddefwr.
Ar 24 Ionawr, roedd y ferch yn cerdded yn ôl i westy yn y Rhyl pan gafodd ei churo yn ei hwyneb gan Gressley-Jones yn dilyn dadl.
Rhoddodd ei ddwylo o amgylch ei gwddf a'i thagu, gan ei chyfyngu rhag anadlu’n iawn.
Dywedodd y Rhingyll Peter Griffiths: "Ni fydd ymddygiad treisgar fel hyn tuag at ferched yn cael ei oddef.
"Mae'r dioddefwr wedi dangos cryn ddewrder wrth ddod ymlaen i adrodd beth ddigwyddodd iddi yn dilyn profiad trawmatig a dychrynllyd.
"Rydym yn parhau i weithredu ar unrhyw adroddiad o drais yn erbyn merched, ac ni fyddwn yn stopio yn ein hymdrechion i erlyn troseddwyr."