Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae chwistrell fforensig sydd efo cyfradd datgeliad 100% wrth nodi troseddwyr ar gael i filoedd o gartrefi yn Wrecsam.
Mae swyddogion wedi rhoi pecynnau atal troseddau i dros 2,500 o breswylwyr ardaloedd Grosvenor, Brynffynnon a Smithfield, er mwyn diogelu’r preswylwyr rhag lladrad, gyda llawer yn cael y cynnig o SmartWater.
Wrth symud ymlaen, mi fydd swyddogion yn cynnig clychau drws fideo a goleuadau solar i aelodau bregus o’r gymuned sydd wedi dioddef byrgleriaeth o’r blaen.
Daw hyn fel rhan o’r Gronfa Strydoedd Diogelach, a gafodd ei chyflwyno er mwyn mynd i’r afael â throseddau cymdogaethol, trais yn erbyn merched a genethod (VAWG) ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae arwyddion hefyd wedi’u lleoli yn yr ardal er mwyn rhwystro lladron bachog.
Dywedodd Rhingyll y Tîm Atal, Sue Carrington: “Mae preswylwyr wedi dweud wrtho ni eu bod nhw’n cael tawelwch meddwl drwy’r gwaith sydd ar y gweill yn lleol er mwyn atal lladradau a byrgleriaethau.
“Mi ddylai bawb deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi nhw’u hunain, ac mi all byrgleriaeth gael effaith barhaus ar unrhyw un sydd wedi’i ddioddef, gan achosi iddyn nhw deimlo’n fregus.
“’Da ni’n parhau gweithio efo partneriaid a’r gymuned er mwyn gwneud i Wrecsam deimlo’n ddiogel er mwyn pawb sy’n byw, gweithio neu’n ymweld.
“Mi fuaswn i’n annog unrhyw un sydd wedi derbyn pecyn drwy’r drws sy’n cynnwys beiro uwchfioled, mynd i Orsaf Heddlu Wrecsam efo’u llythyr er mwyn trafod atal troseddau ac er mwyn derbyn eu SmartWater, yn rhad ac am ddim.”
Mae cyngor Atal Troseddau ar gael ar ein gwefan ni.
Dim ond ardaloedd cymwys sy’n cael y pecynnau atal troseddau am ddim. Fodd bynnag, mi allai preswylwyr efo diddordeb mewn prynu SmartWater am bris is gysylltu efo swyddogion drwy anfon neges e-bost i [email protected]