Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ddoe ymunodd Heddlu Gogledd Cymru hefo Heddlu Swydd Gaer a'i bartneriaid ar gyfer ymgyrch a oedd yn targedu troseddu ar draws y ddwy ardal.
Ddydd Iau, 24 Ebrill, targedodd swyddogion o dimau arbenigol amrywiaeth o fathau o droseddau gan gynnwys troseddau difrifol a threfnedig a throseddau traffig ffyrdd ar draws y ffin rhwng y ddwy sir.
Yn ystod yr ymgyrch hefyd roedd partneriaid o sawl sefydliad yn gweithio hefo'i gilydd er mwyn mynd i'r afael â throseddoldeb ac aflonyddu arno, yn enwedig y rhai sy'n teithio rhwng Sir y Fflint a Chaer, wrth ddarparu presenoldeb tawel i'r cyhoedd a pherchnogion busnes.
Roedd gweithgareddau arwyddocaol ar draws y ddau faes yn cynnwys:
Yn ystod y dydd, stopiwyd nifer sylweddol o gerbydau ar draws y ddwy ardal.
Roedd troseddau traffig yn cynnwys tri cherbyd wedi'u gorlwytho yn teithio ar y ffyrdd, gan gynnwys un yn cario Ferrari ar gefn llwythwr isel.
Cafodd pum cerbyd arall eu hatafaelu yn ystod y dydd, gan gynnwys dau gar yn cael eu gyrru heb yswiriant, beic ffordd a welwyd ar gefn un olwyn o flaen swyddogion, beic oddi ar y ffordd ac e-sgwter.
Cafodd dau eu harestio am yrru ar gyffuriau yng Nghaer, tra di-rymwyd trwydded yrru ar unwaith am olwg gwael yn Sir y Fflint.
Rhoddwyd cyfanswm o 22 adroddiad troseddau traffig (TORs) ar draws y ddwy ardal, am resymau gan gynnwys defnyddio ffonau symudol, dim gwregys diogelwch, diffygion hefo cerbydau, goryrru, a gyrru heb yswiriant.
Atafaelwyd sawl fêp anghyfreithlon o un siop yn Sir y Fflint, cyn i lawer iawn o dybaco a sigaréts wedi'u rholio â llaw anghyfreithlon gael eu darganfod yn y llofft.
Roedd hynny ar ôl ymdrin hefo un ddynes am droseddau mewnfudo mewn bar ewinedd yn y Fflint, tri arestiad am aros yn hirach nag yr oedd eu VISA yn caniatáu, a dau arestiad am weithio'n anghyfreithlon. Cyflwynwyd hysbysiad atgyfeirio hefyd ar gyfer cosb sifil bosibl yn erbyn y busnes.
Dywedodd Wes Williams, Arolygydd Gogledd Sir y Fflint: "Lansiwyd yr ymgyrch hon i fynd i'r afael â throseddau difrifol a threfnedig ar draws Gogledd Cymru a Swydd Gaer ac i roi sicrwydd i'r cyhoedd ein bod ni allan yna ac ein bod ni ar gael.
"Trwy gyfuno adnoddau, cudd-wybodaeth, a grymoedd gorfodi'r heddlu ac asiantaethau partner, fe wnaethon ni gyflawni ein prif amcan o gydweithio'n agos hefo'n cydweithwyr yn Heddlu Swydd Gaer er mwyn aflonyddu ar droseddwyr trawsffiniol.
"'Da ni wedi ymroi o hyd gweithio hefo heddluoedd cyfagos er mwyn ymlid troseddwyr. Hefo'n gilydd, fe wnawn ni barhau gwneud Gogledd Cymru'r lle mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag o.
"Dwi'n gobeithio fod yr ymgyrch hon wedi tawelu meddwl trigolion y gwnawn ni bopeth a allwn ni er mwyn gwarchod y cyhoedd 'da ni'n eu gwasanaethu nhw a thynnu'r rhai hynny sy'n troseddu oddi ar ein strydoedd ni."
Dywedodd Arolygydd James Wilson, o Uned Plismona Lleol Caer, Heddlu Swydd Gaer: "Trwy gydol y dydd fe wnaethon ni ddefnyddio llu o dactegau er mwyn aflonyddu ar weithgarwch troseddol yng Nghaer a Gogledd Cymru. Ond mae'n bwysig nodi bod y ddau heddlu yn defnyddio'r rhain yn rheolaidd fel rhan o'n tactegau plismona bob dydd ni.
"Yn ogystal â bod yno i ganfod ac atal trosedd, roedd yr ymgyrch yn gyfle i ymgysylltu hefo'r cyhoedd a thynnu sylw at yr hyn 'da ni'n ei wneud er mwyn cadw ein cymunedau'n saff.
"Mae ymgyrchoedd a phartneriaeth cydweithio hefo heddluoedd eraill mor bwysig. Mae'n dangos ein bod ni wedi ymrwymo gwneud popeth o fewn ein gallu ni fynd i'r afael ag ymddygiad troseddol yn uniongyrchol a sicrhau bod y ffin rhwng Swydd Gaer a Gogledd Cymru yn parhau bod yn lle gelyniaethus i droseddwyr.
"Dwi'n edrych ymlaen at ymgyrchoedd pellach fel hyn yn y dyfodol."