Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd yn Sir y Fflint.
Am 4.26pm ar ddydd Iau, 24 Ebrill, cawsom adroddiad am wrthdrawiad yn cynnwys pedwar cerbyd ar yr A548 Ffordd Mostyn, Sir y Fflint ger y gyffordd i Bentref Gwespyr.
Ymatebodd y gwasanaethau brys. Fodd bynnag, cyhoeddwyd fod gyrrwr un o'r cerbydau wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae ei pherthynas agosaf wedi cael gwybod ac yn awr yn cael cefnogaeth gan Swyddog Cyswllt Teuluoedd sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig.
Mae Rhingyll Leigh McCann o'r Uned Plismona Ffyrdd yn apelio am dystion.
Dywedodd: "Yn anffodus mae'r digwyddiad hwn yn cael ei ymchwilio fel gwrthdrawiad traffig ffordd. Mae ein meddyliau hefo teulu'r ddynes yn y cyfnod hynod anodd hwn.
“'Da ni'n apelio ar i unrhyw un efallai welodd y gwrthdrawiad neu unrhyw un a oedd yn teithio neu'n cerdded ar hyd Ffordd Mostyn, ger y gyffordd i Bentref Gwespyr ac sydd hefo unrhyw wybodaeth neu ffilm camera cerbyd i gysylltu hefo ni.”
"Mae'r ffordd bellach wedi agor, a hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd nhw."
Mae unrhyw un sydd hefo gwybodaeth yn cael eu hannog i gysylltu hefo swyddogion yn yr Uned Plismona Ffyrdd drwy'r sgwrs we fyw ar y wefan, neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod C058038.