Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 34 oed o Wrecsam wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad hefo achosion byrgleriaeth, twyll a lladrad.
Ar ddydd Llun, 14 Hydref, riportiwyd bod cyfrif masnach cwmni wedi cael ei ddefnyddio'n dwyllodrus er mwyn llogi offer mewn depo gwerthu llogi offer yn Rhostyllen.
Ar ddydd Llun, 21 Hydref, derbyniodd swyddogion adroddiad bod rhywun wedi torri mewn i gaffi Starbucks yn y ddinas, yn dilyn digwyddiad arall ar yr un diwrnod pan riportiwyd bod rhywun wedi ceisio torri mewn i Londis.
Mae Lucas Partyka, o Gylch y Gorllewin, Wrecsam, wedi cael ei gyhuddo o dwyll drwy ymhoniad anwir, byrgleriaeth hefo'r bwriad o ddwyn a cheisio byrgleriaeth hefo'r bwriad o ddwyn mewn perthynas â'r digwyddiadau.
Cafodd Partyka hefyd ei gyhuddo o ladrata a blacmel yn dilyn digwyddiad yn Wrecsam ar ddydd Sul, 29 Medi lle cafodd ffôn symudol dyn ei ddwyn.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac ymddangosodd ger bron Ynadon yr Wyddgrug ar ddydd Sadwrn, 26 Hydref, lle cafodd ei gadw ymhellach yn y ddalfa er mwyn ymddangos ger bron Llys y Goron yr Wyddgrug ar ddydd Gwener, 29 Tachwedd.