Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mi ‘roedd swyddogion o’n Huned Troseddau Ffyrdd allan ar ddydd Gwener, 4 Hydref, yn cynnal profion golwg a gwiriadau diogelwch ffyrdd yn Llandudno.
Mae’r ymgyrch barhaus, a’i hadnabyddir fel Ymgyrch Eyesight, yn gwirio cerbydau ar gyfer eu haddasrwydd i’r ffordd, a bod golwg y gyrrwr yn cyrraedd y safon ofynnol. Mae’n rhaid i yrwyr allu darllen rhif adnabod cerbyd sy’n gyfreithlon ac yn lân o bellter o 20 medr mewn amodau golau dydd.
Yn ffodus, o’r 116 gyrrwr gafodd eu stopio, mi basiodd bob un y profion golwg yn rhwydd, ac mi barhaodd y mwyafrif ar eu taith o fewn munud neu ddwy.
Dywedodd PC Logan, o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Mae golwg da yn hanfodol ar gyfer gyrru’n ddiogel, a wnawn ni ddim ymddiheuro am geisio lleihau gwrthdrawiadau difrifol ac angheuol, yn unol â mentrau diogelwch y ffyrdd.
“’Da ni’n cynghori bod gyrwyr yn cymryd amser i wirio’u cerbydau er mwyn sicrhau eu bod wedi’i paratoi ar gyfer misoedd y gaeaf.
“Sicrhewch bod eich teiars mewn cyflwr da a bod y gwasgedd yn gywir. Y terfyn cyfreithiol lleiaf ar gyfer ceir ydy 1.6mm ar draws tri chwarter cylchedd y gwadn.
“Gwiriwch bod holl oleuadau eich car yn gweithio’n gywir, bod hylif yn eich cronfa golchi eich ffenestr flaen, a bod y sychwyr ffenestri’n gweithio’n gywir.
“Mae’r rhain yn wiriadau bach syml sy’n gwella diogelwch eich cerbyd yn fawr.”
Fodd bynnag, er y profion golwg cadarnhaol, mi wnaeth y swyddogion bedwar arestiad, gan gynnwys am wrthod prawf cyffuriau, methu prawf cyffuriau wrth ochr y ffordd, gyrru diofal a methu â stopio.
Mi wnaeth y swyddogion hefyd roi 14 Hysbysiad Trosedd Traffig (TORs) am ddiffygion ar gerbydau, gan gynnwys arlliw anghyfreithlon ar y ffenestri blaen, platiau adnabod cerbyd anghyfreithlon, teiars heb aer digonol, dim prawf MOT, gyrru heb drwydded a gyrru gwrthgymdeithasol.
Mi gafodd dau gerbyd eu hatafaelu; un heb yswiriant a’r llall am fethu â stopio i’r heddlu.
Ychwanegodd PC Logan: “Os yw’n bosib, ’da ni hefyd yn cynghori cerddwyr, beicwyr a marchogwyr ceffylau sicrhau eu bod mor weladwy â phosib. Gwneir hyn drwy wisgo dillad llachar, a bod ganddyn nhw oleuadau digonol er mwyn eu gweld wrth ddefnyddio ffyrdd lle mae diffyg neu ddim golau.”
Mi fydd swyddogion yr uned yn cynnal rhagor o ymgyrchoedd dros y misoedd nesaf, fel maen nhw’n ymrwymo gwneud ffyrdd Gogledd Cymru mor ddiogel â phosib.
Mae gallu gweld yn elfen bwysig wrth yrru. Os ydy’r ymgyrch hon yn atal un unigolyn rhag cael anafiadau, neu’n waeth, eu lladd, yna ‘da ni’n ei hystyried yn llwyddiant.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â diogelwch y ffyrdd yn eich ardal, rhowch wybod i ni, gan ddefnyddio’r dudalen gyswllt ar ein gwefan, neu drwy siarad efo ni pan welwch ni allan yn eich ardal.