Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gyda Chalan Gaeaf yma a Noson Tân Gwyllt yn agosáu, mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru unwaith eto'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y dathliadau'n ddiogel a phleserus i bawb.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn disgwyl nosweithiau mwy prysur nag arfer a thra bod hyn yn gyfnod o hwyl i lawer, gall fod yn gyfnod pryderus i eraill yn y gymuned.
Bob blwyddyn mae'r heddlu yn gweld ymddygiad gwrthgymdeithasol, felly mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog rhieni a gofalwyr i gymryd diddordeb yng nghynlluniau eu plant er mwyn sicrhau eu bod yn ymddwyn yn gyfrifol heb achosi problemau yn y gymuned. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith tymor hir ar fywyd person ifanc, ac ar y rhai sy'n cael eu heffeithio gan eu hymddygiad.
Mae #YmgyrchBang yn ymgyrch flynyddol rhwng partneriaid ac awdurdodau lleol sy’n helpu lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol dros yr wythnosau sydd i ddod.
Er mwyn paratoi ar gyfer #YmgyrchBang mae swyddogion o Dimau Plismona’r Gymdogaeth ar draws Gogledd Cymru wedi bod yn ymgysylltu gyda phobl mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid yn trefnu gweithgareddau gyda help arian o Ymddiriedaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT).
Mae’r gwaith dros y cyfnod hefyd wedi cynnwys hyrwyddo negeseuon allweddol am fod yn ystyrlon a pharchus i bob aelod o'r gymuned gan atgyfnerthu na fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei oddef, yn ogystal â negeseuon diogelwch i blant.
Mae perchnogion siopau hefyd wedi cael eu hannog i beidio â gwerthu blawd ac wyau i blant hyd at 31 Hydref.
Dywedodd y Prif Arolygydd Siobhan Edwards o Heddlu Gogledd Cymru "Gobeithio y bydd pobl yn ymddwyn yn gyfrifol dros Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt eleni fel y maent wedi gwneud ar nosweithiau blaenorol. Gwyddom fod y mwyafrif o bobl yn mwynhau'r cyfnod hwn mewn modd call ac nid ydym yn ceisio sbwylio eu hwyl ond yn anffodus mae lleiafrif yn gweld y dathliadau yn ffordd o droseddu a gweithredu'n wrthgymdeithasol. Rydym am weithio gydag ein cymunedau er mwyn sicrhau eu bod yn gallu mwynhau eu hunain yn ddiogel.
“Mae ein timau ac ein partneriaid yn gweithio ar draws yr ardal - yn helpu addysgu, sicrhau a chadw ein cymunedau yn ddiogel. Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf cofrestrwch er mwy derbyn Rhybuddion Cymunedol Hafan - Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru
Mae'r galw ar y gwasanaethau yn codi yn sylweddol yn ystod cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt. Er mwyn cadw ein llinellau yn glir ar gyfer y mwyaf anghenus gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â'r asiantaeth fwyaf perthnasol ac yn defnyddio'r dull cysylltu mwyaf priodol.
Mae gofidion ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch cyhoeddus yn fater i'r heddlu. Os nad yw'n argyfwng cysylltwch â ni drwy'r wefan - Hafan | Heddlu Gogledd Cymru. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.
Dylai cwynion am sŵn, gwerthu tân gwyllt a nwyddau eraill ynghyd â phryderon am ollwng sbwriel gael eu gwneud i'r awdurdod lleol drwy Ein partneriaid | Heddlu Gogledd Cymru
Ychwanegodd yr Prif Arolygydd Edwards: “Os gwelwch boster yn cael ei ddangos yn gofyn i blant sy'n chwarae cast neu geiniog i beidio â galw, parchwch eu dymuniad i gael llonydd."
Mwynhewch Galan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn ddiogel. Cadwch yn ddiogel a gofalwch am eich gilydd.
Mae rhagor o wybodaeth am PACT ar gael ar drwy: Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (pactnorthwales.co.uk)