Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dau ddyn wedi eu dedfrydu am ymyrryd â daear moch daear.
Mi achosodd Anthony Lloyd Wilkinson, 29 o Ffordd Rhedyw, Llanllyfni, a Stephen Lee Jones, 33 o Stad Bro Rhos, Bethel, i gi fynd i ddaear moch daear, ac mi gafodd ei ddifrodi o ganlyniad.
Mi ddigwyddodd yng Ngarndolbenmaen, Gwynedd, ar 7 Ionawr eleni.
Mi wnaeth ymholiadau arwain yr heddlu at ddau unigolyn o dan amheuaeth, ac yno mi gyflawnwyd gwarantau chwilio mewn dau gyfeiriad o dan y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. O ganlyniad, mi gafodd ddau gi eu hatafaelu o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Mi wnaeth Wilkinson a Jones gyfaddef y cyhuddiadau o ymyrryd â ac achosi difrod i ddaear moch daear, ac mi ymddangosodd y ddau gerbron Llys Ynadon Llandudno ar ddydd Mercher 16 Hydref, ar gyfer dedfryd.
Mi dderbyniodd y ddau ddedfryd i’r carchar am 12 wythnos, sydd wedi’u gohirio am flwyddyn.
Maen nhw hefyd wedi eu gwahardd rhag cadw cŵn am bedair mlynedd, ac wedi cael gorchymyn i dalu £600 yr un tuag at y RSPCA.
Mae’r mochyn daear yn rywogaeth warchodedig, ac mae’n anghyfreithlon i’w ladd, anafu neu ei ddal, neu i ymyrryd â’i ddaearau.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, PC Matt Raymond: “Mae’r gyfraith er mwyn gwarchod moch daear yn bodoli am reswm da, a ‘da ni’n cymryd pob hysbysiad o ddifri.
“Fel arfer, mae troseddau o’r math yma yn anodd i’w rhoi gerbron y llys oherwydd nad ydyn nhw’n rhai cyffredin, felly ‘dwi’n croesawu’r canlyniad yma, sydd hefyd yn arddangos pwysigrwydd y gwaith partneriaeth sydd gennym ni efo’r RSPCA pan yn ymchwilio i droseddau cefn gwlad.
“Ni wnawn ni oddef troseddau cefn gwlad o’r fath, ac mi fydden nhw’n cael eu hymchwilio, a chael eu trin yn llym yn y llys.”