Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 52 oed a wnaeth fygwth rhoi dynes ar dan a llosgi gorsaf betrol wedi mynd i'r carchar.
Ymddangosodd Steven Johnson, sy'n ddigartref ond yn dod o Gaernarfon, yn Llys y Goron, Caernarfon ddydd Gwener 25 Hydref ar ôl cyfaddef i fygwth difrodi eiddo.
Ar 8 Awst roedd Johnson yn canu a chwarae offeryn wrth yr orsaf betrol ym Mhentraeth, Ynys Môn, pan ofynnwyd iddo i adael.
Dechreuodd Johnson waeddi ar y rheolwr gan fygwth rhoi'r lle ar dân gyda thaniwr sigarét yn ei law.
Cododd drwyn y biben betrol gan waeddi ei fod yn mynd i roi'r lle a'i hunan ar dân cyn i'r rheolwr wthio Johnson i ffwrdd a rhoi'r biben betrol yn ôl yn y pwmp.
Aethpwyd â Johnson o'r lleoliad gan y rheolwraig a'u chydweithwyr ond dywedodd y byddai'n dychwelyd a thorri'r ffenestri.
Cafodd ei arestio yn ddiweddarach.
Mi gafodd ei garcharu am wyth wythnos.
Meddai Rhingyll Beth Lloyd : “Rwyf yn cymeradwyo gweithredoedd y staff yn yr orsaf a wnaeth weithredu yn gyflym i atal Johnson rhag achosi niwed sylweddol er gwaetha'r ffaith eu bod mewn peryg gwirioneddol.
“Mi allai'r canlyniadau fod wedi bod yn ddifrifol iawn a gobeithio y bydd Johnson yn adlewyrchu ar ei ymddygiad."