Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi ei garcharu, yn dilyn sarhau dynes yn hiliol yng Nghaernarfon.
Mi ymddangosodd Michael Owen Williams, o Ddolfor, Pwllheli, yn Llys y Goron, yr Wyddgrug ar ddydd Mawrth, 22 Hydref, ar ôl cyfaddef aflonyddwch gwaethygedig ar sail hil a thorri amodau gorchymyn atal troseddau rhywiol.
Ar 9 Awst, ‘roedd dynes wrth orsaf fysiau Caernarfon efo’i phlant, pan ddaeth Williams ati a dechrau ei sarhau’n hiliol, heb achos.
Mi ddechreuodd weiddi arni i “fynd yn ôl i le ddes ti” a dweud “’dwyt ti ddim yn perthyn yma”, gan adael y ddynes a’i phlant yn teimlo’n ofidus ac yn drist.
Mi achosodd yr ymddygiad hwn iddo dorri amodau ei orchymyn atal troseddau rhywiol, a dderbyniodd yn 2008, oedd yn ei wahardd rhag fynd ar gyfyl neu aflonyddu neu fygwth merched.
Mi gafodd ei garcharu am ddwy flynedd ac un mis.
Mi gafodd hefyd orchymyn atal er mwyn diogelu’r dioddefwr, fydd yn para am dair mlynedd.
Dywedodd Ian Roberts, yr Arolygydd Ardal: “’Roedd yr ymddygiad ffiaidd hwn wedi’i dargedu at ddynes oherwydd ei hil.
“Ni fyddwn yn goddef hyn yng Ngwynedd, a byddwn yn ymdrin yn gadarn ag unrhyw ddigwyddiadau troseddau casineb.”
Dylai unrhyw un sy’n profi sarhau hiliol ei riportio i’r heddlu drwy ein gwefan, neu drwy ffonio 101, neu drwy asiantaeth gynorthwyol.