Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 39 oed wnaeth ffilmio clipiau anweddus o blant yn gyfrinachol wedi ei garcharu am dros bedair blynedd.
Mi ymddangosodd Gareth Ashton o Ffordd Victoria, Prestatyn, yn Llys y Goron, Caernarfon heddiw, dydd Gwener 25 Hydref, ar ôl cyfaddef torri amodau gorchymyn atal niwed rhywiol.
Mi gafodd ei garcharu am bedair blynedd a deg mis, ac mi gafodd orchymyn i gydymffurfio â’r rhestr troseddwyr rhyw am gyfnod penagored.
Ar 8 Medi 2023, mi ddilynodd Gareth Ashton nifer o ferched ysgol yng ngorsaf drenau Prestatyn, lle gymerodd fideos i fyny eu sgertiau heb eu caniatâd.
Mi sylwodd y grŵp ar hyn, a’i herio cyn ei erlid ac yna, ei riportio i’r heddlu.
Yn hwyrach ymlaen, mi gafodd Ashton ei arestio gan yr heddlu, a aeth wedyn i chwilio drwy ei dŷ.
Mi atafaelwyd nifer o ddyfeisiadau nad oedden nhw wedi’u cofrestru efo’r heddlu, rhywbeth a oedd ofynnol yn ôl y gorchymyn atal rhywiol oedd eisoes yn ei erbyn.
Mi wnaeth yr Uned Fforensig Ddigidol archwilio’r dyfeisiadau a darganfod 1258 o luniau a fideos anweddus o blant, gan gynnwys ffilm ‘roedd o wedi ei greu yn gyfrinachol o blentyn noeth ar y traeth.
‘Roedd Ashton wedi cymryd cipluniau o’r fideo er mwyn creu lluniau llonydd o’r plentyn noeth.
Mi ddatgelodd archwiliadau o’i ddyfeisiadau hefyd ei fod wedi chwilio’r we am dermau fel “camera ysbïo gorau” a “sut i ffilmio rhywun heb iddyn nhw wybod”.
Dywedodd y Cwnstabl Julian Tomlinson, o’r Uned Amddiffyn Pobl Fregus: “Dylai rhieni a phlant deimlo’n ddiogel pan allan yn gyhoeddus, ac mi fydd gweithrediadau Ashton yn cael effaith tymor hir ar y gymuned.
“’Dwi’n canmol y dioddefwr am gynorthwyo’r archwiliad, sydd wedi arwain at ei euogfarn, fydd yn ei atal rhag troseddu eto.
“Mi wnawn ni drin y rhai sy’n troseddu yn erbyn plant a’r rhai mwyaf bregus yn y gymdeithas yn gadarn.”