Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 39 oed wedi cael ei garcharu am gam-drin domestig yn erbyn ei bartner.
Gwnaeth Ben Maddocks, sydd heb gartref sefydlog, ond sy'n dod o Ewlo ymddangos yn Llys Ynadon Wrecsam ar ddydd Llun, 28 Hydref gan gyfaddef iddo droseddu yn erbyn y drefn gyhoeddus.
Fe'i ddedfrydwyd i 32 wythnos yn y carchar.
Yn ystod oriau mân bore Gwener, 25 Hydref derbyniodd swyddogion adroddiad gan y dioddefwr bod Maddocks wedi bod yn dreisgar tuag ati ac wedi ymosod arni mewn tacsi. Dywedodd hefyd iddo gymryd ei ffôn a'i thabled a chyfyngu ei mynediad i'w ffôn drwy newid ei rhif pin.
Aeth swyddogion i'r cyfeiriad ac oherwydd gwybodaeth y dioddefwr a'i hanes o drais domestig, arestiwyd Maddocks.
Torrodd y digwyddiad orchymyn gohiriedig a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2024 ac o ganlyniad, cyhuddwyd Maddocks o ddefnyddio ymddygiad bygythiol gyda'r bwriad o achosi ofn neu annog trais anghyfreithlon.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Iwan Jones: "Rydym yn benderfynol o erlid unigolion sy'n aflonyddu ar y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.
“Mae'r canlyniad heddiw yn dyst i waith caled swyddogion, ac mae ein hasiantaethau partner yn parhau i ddiogelu a chefnogi dioddefwyr trais domestig a thrais yn erbyn merched a genethod.
“Nid yw'n hawdd siarad yn dilyn trais domestig, ond gallaf sicrhau i unrhyw un y byddwn yn ymchwilio i unrhyw adroddiad o drais domestig yn drylwyr ac yn erlyn troseddwyr."
Ymgyrch Unite ydy ein hymateb ni i drais yn erbyn merched a genethod. Ceir mwy o wybodaeth yma - Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru