Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 38 oed wedi cael ei garcharu ar ôl ymosod ar blentyn yn ei harddegau ym mis Gorffennaf y llynedd.
Gwnaeth Terrance Lloyd, sydd heb gartref sefydlog, ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ar ddydd Gwener, 4 Hydref ar ôl ei ganfod yn euog o drosedd rhywiol.
Ar 2 Gorffennaf 2023, dilynodd Lloyd y ferch 13 oed i mewn i'w chartref a'i tharo ar ei phen-ôl. Er i'r ferch ddweud wrtho am stopio, gofynnodd am ei rhif ffôn hyd yn oed ar ôl iddi ddweud wrtho beth oedd ei hoed.
Mi gafodd ei garcharu am 44 wythnos. Rhaid iddo hefyd gofrestru gyda’r heddlu am gyfnod o saith mlynedd.
Dywedodd PC Amie, y Swyddog Ymchwilio: “Roedd y dioddefwr yn yr achos hwn yn hynod o ddewr yn riportio'r hyn a ddigwyddodd iddi hi.
“Mae ei dewrder wedi arwain at euogfarnu Lloyd.
"Rydym wedi ymrwymo i erlyn trais yn erbyn merched a genethod a byddwn yn ymchwilio i unrhyw adroddiad o drais dan ni'n derbyn.
"Buaswn i'n annog unrhyw un sy'n dioddef trais i ddod ymlaen atom, mi fyddwn i'n gwrando, ac mi fyddwn ni'n eich cefnogi chi."