Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 33 oed o Ynys Môn wedi ei garcharu am bedair mlynedd ac wyth mis, am gyfres o droseddau treisgar yn erbyn ei gyn gymar.
Mi gafodd Dwayne Ashley Thomas, o Stryd Henry, Caergybi, ei ddedfrydu yn Llys Y Goron, Caernarfon, ar ddydd Mercher, 16 Hydref.
Mi blediodd Thomas yn euog i geisio achosi niwed corfforol difrifol a chyflawni ymddygiad rheolaethol a gorfodol yn erbyn ei ddioddefwr benywaidd.
Yn ystod eu perthynas saith mlynedd, mi gyflawnodd Thomas gyfres o ymosodiadau difrifol a pharhaus yn ei herbyn – gan gynnwys ei thagu tan iddi golli ymwybyddiaeth, a dal cyllell i’w gwddw.
Mi wnaeth ei phwnio, ei chicio a’i phenio dro ar ôl tro ac, yn ystod un digwyddiad, mi orfododd dorrwr pizza i’w cheg.
Fel rhan o’i ymddygiad gorfodol a rheolaethol yn ystod y berthynas, mi wnaeth Thomas hefyd gloi y ddynes yn ei thŷ.
Ar ben ei ddedfryd i’r carchar, mae gorchymyn atal benagored hefyd wedi’i gyhoeddi, er mwyn atal Thomas rhag cysylltu â’r dioddefwr, un ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd, Richard Griffith: “’Roedd y trais a’r cam-drin manylir yn y cyhuddiadau yn erbyn Thomas yn erchyll ac yn barhaus.
“Gallai cam-drin domestig, ym mhob ffurf, gael effaith ddwys a pharhaol ar unigolyn.
“’Dydy o ddim yn hawdd riportio digwyddiadau o’r math yma, a ‘dwi’n cymeradwyo dewrder y dioddefwr am leisio ynglŷn â’r cam-driniaeth helaeth wnaeth hi ddioddef wrth law’r dyn hwn.
“’Da ni’n parhau i weithredu ar unrhyw hysbysiad o drais domestig ac o ymddygiad rheolaethol a gorfodol, a wnawn ni ddim ildio ein hymdrechion i ddod â troseddwyr o’r fath o flaen eu gwell.”
Ymgyrch Unite ydy’n ymateb ni i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched a genethod.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru