Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwerthwr cyffuriau o Lerpwl, oedd yn rhedeg llinell cyffuriau yn cyflenwi Crac Cocên a Heroin o Lannau Mersi i Fae Colwyn, wedi cael ei garcharu am dros pedair mlynedd.
'Roedd Jake Waugh, 20, o Thornton Road, Bootle yn gyfrifol am weithredu rhwydwaith cyffuriau Llinellau Cyffuriau yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A i Fae Colwyn o Lannau Mersi. Mi wnaeth y llinell, a alwodd ei hun yn 'Scouse Joe', anfon 2,674 o negeseuon 'swmp' yn hysbysebu cyffuriau Dosbarth A i'w gwerthu, rhwng 17 Ebrill 2024 – 13 Mai 2024.
'Roedd sampl o'r negeseuon hyn yn cynnwys "Scouse joe best of both active in bay", "On with white scouse joe" a "Happy hour 4 for 30".
Mi gafodd Waugh ei adnabod gan swyddogion o'r Uned Troseddau Difrifol a Threfnedig ac Ymgyrch Toxic Heddlu Glannau Mersi, fel rhan o ymchwiliad i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A i Ogledd Cymru.
Mi gafodd ei stopio gan yr heddlu ar 29 Ebrill, yng ngorsaf drenau Bae Colwyn hefo o ffôn a £300 mewn arian parod yn ei feddiant. Yn syth ar ôl cael ei stopio, defnyddiodd Waugh rif ffôn newydd. Roedd y ddau rif ffôn yn cael eu defnyddio i hwyluso'r cyflenwad o Grac Cocên a Heroin.
Mi fyddai Waugh yn teithio naill ai ar drên neu mewn tacsi i Fae Colwyn, bron yn ddyddiol. Mi wnaeth ymholiadau teledu cylch cyfyng a thelathrebu yn cysylltu Waugh ymhellach efo rhedeg y ffôn 'grafft'.
Ar 21 Mai, mi gafodd Waugh ei arestio yn ei gartref yn Lerpwl ac mi gafodd ei gyhuddo yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Mi ymddangosodd yn Llys y Goron, Bolton heddiw, dydd Gwener, Hydref 11, ar ôl pledio'n euog o fod yn ymwneud â chyflenwi crac cocên a heroin.
Mi gafodd ei garcharu am pedair mlynedd a pedair mis.
Dywedodd y Cwnstabl Ashley Davies: “Mae llinellau cyffuriau yn gysylltiedig â'r trais mwyaf difrifol, sy'n achosi dioddefaint ac ofn yn ein cymunedau.
"'Dwi'n croesawu'r ddedfryd gafodd Waugh a 'dwi'n gobeithio bod yr achos hwn yn tawelu meddwl y gymuned leol, gan ddangos ein bod wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael â throseddau'n gysylltiedig â chyffuriau yng Ngogledd Cymru".
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am gyffuriau yn eu cymuned gysylltu â Crimestoppers yn ddienw, drwy ffonio 0800 555 111.