Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 33 oed a dagodd ei gyn gymar yn fwriadol wedi cael ei garcharu.
Fe wnaeth Phillip Hill, o East Parade, Y Rhyl, ymosod ar y dioddefwr yn ei chartref yn dilyn digwyddiad digymell ar 16 Awst.
Cyfaddefodd gyhuddiad o dagu bwriadol, ac ymddangosodd ger bron Llys y Goron yr Wyddgrug heddiw sef dydd Llun, 28 Hydref er mwyn cael ei ddedfrydu. Cafodd ei garcharu am 15 mis.
Yn anhapus bod ei gyn gymar wedi bod allan i ymweld ag aelod o'r teulu oedd yn sâl, gafaelodd Hill yn y dioddefwr yn ei gwddf a'i gwthio'n erbyn wal, cyn ei tharo ar draws ei hwyneb.
Er iddi allu dianc, llusgodd Hill hi i'r llawr a defnyddio'i ddwy law i'w thagu unwaith eto, gan ei gadael wedi dychryn am ei bywyd.
Wedi dianc o'r cyfeiriad, fe ffoniodd y dioddefwr yr heddlu bryd hynny, ac fe gafodd Hill ei arestio yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, PC Kieran Jones: "Ni fydd ymddygiad treisgar ac anfaddeuol tuag at ferched yn cael ei oddef.
"Mae'r dioddefwr wedi dangos cryn ddewrder wrth ddod ymlaen i riportio'r hyn ddigwyddodd iddi hi'n dilyn profiad trawmatig a brawychus. Rhaid canmol ei dewrder yn ystod yr ymchwiliad hwn.
“Nid yw'n hawdd siarad yn dilyn trais domestig, ond gallaf sicrhau i unrhyw un y byddwn yn ymchwilio unrhyw adroddiad drais domestig yn drylwyr ac yn erlyn troseddwyr."
Ymgyrch Unite ydy ein hymateb ni i drais yn erbyn merched a genethod. Ceir mwy o wybodaeth yma – Ymgyrch Unite | Heddlu Gogledd Cymru